Teyrngedau yn cael eu rhoi i'r 'arloeswr' John Walter Jones
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, John Walter Jones wedi marw yn 74 oed.
Roedd yn was sifil yn y Swyddfa Gymreig yn gynharach yn ei yrfa ac fe helpodd i lunio Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1993.
Ef oedd prif weithredwr cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg o'i sefydlu yn 1993 hyd at 2004.
Cafodd dyletswyddau'r bwrdd eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ac yna i Gomisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith a ffrind agos, ei fod yn ystyried John Walter Jones yn "un o arwyr sefydlu datganoli".
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw yn 2018, dywedodd John Walter fod Bwrdd yr Iaith a Deddf yr Iaith wedi "gosod seiliau" ac wedi "darbwyllo sawl un fod cynllunio dyfodol i'r iaith yn broses lled-hirfaith".
Bu hefyd yn gadeirydd Awdurdod S4C am gyfnod.
Ymddeol, ac nid ymddiswyddo y gwnaeth o'r swydd honno, er iddo ddweud yn ddiweddarach wrth raglen Beti a'i Phobol ei fod "ddim yn hapus sut gafodd y prif weithredwr [Iona Jones, dolen allanol] ei thrin".
Yn fwy diweddar, bu'n cyflwyno rhaglen drafod a holi amser cinio ar BBC Radio Cymru rhwng 2014 a 2018.
Yn enedigol o ardal Moelfre, Ynys Môn, cafodd ei addysg yn Ysgol Friars ym Mangor.
Astudiodd economeg yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Caerdydd.
Cafodd ei urddo yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ac fe dderbyniodd OBE am "wasanaethau i'r iaith Gymraeg".
Ym mis Gorffennaf 2009, bu farw merch John Walter a'i wraig Gaynor ar ôl iddi gael math prin o ganser, sarcoma.
Penderfynodd y ddau gynnig rhodd o £750 er cof am eu merch, Beca Chamberlain, i enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
'Crëwr sefydliadau, cynhaliwr sefydliadau'
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod John Walter Jones eisiau bod yn swyddog cyhoeddus erioed.
"Mi gyflawnodd o gymaint drwy fod yn swyddog effeithiol," meddai.
"Mi weithiodd o drwy gyfundrefn yr hen Swyddfa Gymreig i greu sefydliad iddo fo'i hun i fod yn brif weithredwr arno fo, a siarad yn blaen!
"Roedd pawb yn y mudiadau iaith drwy Ewrop gyfan yn nabod John Walter Jones - fo oedd y person arloesol.
"Roedd pawb yn rhyfeddu, wrth gwrs, 'sut mae rhywun fel hyn sy'n swyddog i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn treulio'i holl amser yn hyrwyddo iaith leiafrifol?'
"Fo oedd y bos ar unrhyw achlysur - os oedd yna rywbeth i ddigwydd, fo oedd y symudwr, fo oedd yn gwneud iddo fo ddigwydd.
"Ond ochr yn ochr â'r bersonoliaeth yna, roedd y llawenydd mawr 'ma am fywyd er gwaetha' colli Beca a'r cyfan ddigwyddodd iddo fo yn ei fywyd.
"Doedd 'na ddim byd ond positifrwydd i gael gan John - unrhyw dasg oedd isio'i gwneud, roedd John yna i'w gwneud hi.
"Dyna gyfraniad mawr John - crëwr sefydliadau, cynhaliwr sefydliadau, a dyna sydd mwya' o'i angen ar Gymru oherwydd allwch chi ddim bod yn wlad gymharol fach wrth ymyl gwladwriaeth fawr fel un y Deyrnas Unedig os nad 'da chi'n gallu chwarae'r gêm yna'n glyfrach na nhw. A doedd yna neb clyfrach na John Walter.
"Mi fydda i'n cofio'r holl hwyl gawson ni o fod yn 11 oed ymlaen. Fydda i'n cofio ei ymlyniad cadarn o wrth ei gefndir yn y gogledd ond hefyd ei allu o i gymdeithasu efo pawb o bob math o gefndir."
Roedd Rhodri Williams, sydd bellach yn gadeirydd S4C, yn gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg pan roedd John Walter Jones yn brif weithredwr.
"Roedd John yn angerddol dros Gymru a'r Gymraeg, yr un mor angerddol ag unrhyw ymgyrchydd iaith," meddai Mr Williams.
"Roedd ei gyfraniad at lunio deddfwriaeth yn y 90au cynnar yn allweddol, er enghraifft Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
"Roedd yn gyfrifol am osod Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ei draed ac am sicrhau ei fod yn sefyll ochr wrth ochr â chyrff eraill oedd yn delio â meysydd polisi cyhoeddus."
'Cyfraniad allweddol'
Bu Meirion Prys Jones yn ddirprwy i John Walter Jones ym Mwrdd yr Iaith am dros ddegawd.
Dywedodd na fyddai sefydlu'r Bwrdd na Deddf Iaith yn '93 wedi bod yn bosib "oni bai am lobïo mewnol John".
"Roedd John yn cydnabod bod angen cael sefydliad hyd braich i'r llywodraeth," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae ei gyfraniad yn allweddol - mae'n bosib na fydde ganddo ni Gomisiynydd Iaith heddiw oni bai am y gwaith palu wnaeth John.
"Roedd hi'n chwyldroadol i gael bwrdd oedd yn gweithio ar iaith leiafrifol a byddwn i'n dadlau mai Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd yr un mwyaf arloesol ar lefel byd.
"Mae'r gwaith o ddigideiddio'r Gymraeg - sefydlu Cysill, er enghraifft - a'r safonau iaith, yn greiddiol i'r hyn sydd ganddo ni heddiw."
Dywedodd cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg cyntaf, Meri Huws fod John Walter yn "hollol, hollol benderfynol bod y Bwrdd a'r Ddeddf Iaith yma'n mynd i weithio".
"Doedd e ddim yn was sifil normal, roedd e'n llawn brwdfrydedd, llawn ynni," meddai.
"Roedd e'n styfnig, llond pen o wallt coch, yn llawn pendantrwydd. Mae'n sioc i glywed bod yr ynni yna wedi dod i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018