'Cer O 'Ma Corona!': Chwe mis heriol
- Cyhoeddwyd
Mae pandemig COVID-19 wedi hawlio dros 1,600 o fywydau yng Nghymru, a bron i filiwn ledled y byd.
Ond yn ogystal â lladd pobl mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol mewn sawl agwedd arall; methu gweld teulu, dim cymdeithasu â ffrindiau a gorfod canslo gwyliau dramor.
Mae hi bellach yn chwe mis ers i griw o bobl ifanc gymryd rhan yn y gyfres 'Cer O 'Ma Corona!' ar BBC Radio Cymru. Mae'r tri nôl i drafod eu profiadau; Manon Roberts o Gaerdydd, sy'n ddisgybl yn Ysgol Plas Mawr, Talulah Thomas o Langollen, sydd ar fin mynd i'r Brifysgol yng Nghaergrawnt ac Ifan Price sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Sut mae'r cyfnod wedi effeithio ar fywydau?
Manon: "Y newid mwyaf yn amlwg yw'r ffaith oedden ni ddim yn cael mynd i'r ysgol. Roedd o'n rhyfedd gorfod gweithio o gartre' a chyfathrebu gyda athrawon dros y we. Ond doedd o ddim o reidrwydd yn beth gwael achos mewn ffordd wnaeth e roi cyfle i ni ddysgu am apps fel Zoom a Teams sydd mas 'na i helpu ni, a wnaethon nhw weithio'n grêt i ddweud y gwir. Hefyd, roedd o'n paratoi ni ar gyfer y Brifysgol - drwy weithio o gartref a chysylltu ar e-bost a dros y we."
Ifan: "Y newid mwyaf efo fi oedd gorfod gadael Prifysgol yn gynnar llynedd. Oedden ni yn yr ail dymor ym mis Mawrth ac y mwya' sydyn oedden ni'n gorfod mynd adra. Oedd gennai fywyd cymdeithasol yn Aber, gan fynd allan bob penwythnos. Mi roedd yr Eisteddfod Ryng-golegol y penwythnos cyn lockdown, ac yn fwyaf sydyn oedden ni adra yn y tŷ, efo'r teulu, methu gweld ffrindiau na neb arall- roedd y newid yna dros nos wedi troi popeth ar ei ben."
Talulah: "O'n i ar flwyddyn allan math o beth, yn gweithio dwy job ac yn brysur yn mynd i ffwrdd ac ati ar wahanol brosiectau, ac yn sydyn wnaeth y byd dawelu ac o'n i'n meddwl 'oh, be dwi am wneud rŵan?' Nath o effeithio ar fy iechyd meddwl i, oedd o'n rili gwael am sbel, ond dwi'n meddwl i bawb oedd o jest yn fluctuatio gymaint, y ffordd o'n i'n teimlo am y sefyllfa a phopeth oedd yn mynd 'mlaen.
"O'n i'n teimlo'n ansicr iawn am gyfnodau hir o'r lockdown, efo beth oedd am ddigwydd efo'r brifysgol - dwi'n mynd yno diwedd y mis, ond oedd 'na gymaint o sibrydion am ganslo pethau. O'n i erioed di cael profiad fel 'na o'r blaen - dwi'n licio gwybod be sy am ddigwydd a chynllunio o flaen llaw, a dwi'n licio cael y rheolaeth yna. Felly oedd o'n ddiddorol profi'r newid sylweddol 'na o fewn fy hun, i geisio jest gadael pethau ddigwydd a pheidio mynd yn wallgo' gyda phopeth oedd yn mynd 'mlaen."
Ifan: "Un peth oedd yn fy nharo i, yn enwedig ar y dechrau pan oedd o gymaint yn y cyfryngau, oedd bod fi'n gweld y newyddion a mynd 'wow mae hwn yn effeithio arna i, reit rŵan!' Achos mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, ond oedd hwn yn effeithio yn uniongyrchol arna i, ddim yn cael gweld ffrindiau, rheolau faint dwi'n cael gweld ac o ba bellter ac ati. Newyddion oedd fy hobi i a fy mywyd i am gyfnod!"
Manon: "Naeth e neud i fi wylio'r newyddion ac edrych fewn i'r peth, achos dwi ddim yn berson sy'n dilyn materion cyfredol. Ond mae'r hyn sy'n digwydd yn effeithio arnom ni'n uniongyrchol - o'n i'n gwylio Newsnight bob nos ac edrych fewn i'r datblygiadau."
Talulah: "Un peth diddorol ydi bo ni wedi gweld un o'r ymgyrchoedd mwyaf erioed, twf ymgyrch Black Lives Matter, ac oedd hwnna yn rhan o brofiad pawb o lockdown. Ac felly da ni wedi gweld pa mor bwerus ydi cyfryngau cymdeithasol i ledaenu newyddion a threfnu ymgyrchoedd."
Manon: "Os byddai hyn wedi digwydd blynyddoedd yn ôl fyswn ni'n lot fwy unig, felly da ni wir yn lwcus i gael cyfryngau cymdeithasol a bod ni'n gallu e-bostio athrawon neu siarad ar y ffôn gydag aelodau o'r teulu da ni methu gweld achos rheolau COVID-19. Mae cyfryngau cymdeithasol yn cael gymaint o sylw negyddol am fod nhw'n ddylanwad gwael ar bawb, ond yn y cyfnod yma mae wedi bod yn werthfawr."
Ifan: "Mwyaf sydyn o'n i'n teimlo'n yn nes at rhai grŵp o ffrindiau na be o'n i yn y brifysgol, oherwydd fel arfer byswn i ond yn gweld nhw pan o'n i adra, lle o'n i wedyn yn siarad lot amlach ar Zoom ac ati. Felly er bod ni ddim yn gweld ein gilydd odden ni'n dod yn nes rhywsut.
"Ar ôl dechrau mynd mewn slymp meddyliol a stryglo nes i benderfynu bod rhaid fi wneud ymarfer corff - dydd Mawrth o'n i'n rhedeg, dydd Mercher hyn, dydd Iau hyn...felly o'n i'n mynd mewn i ryw strwythur. Dwi mor falch nes i hynna achos fyswn i wedi gallu cario 'mlaen yn jest gwneud dim byd."
Talulah: "Mae hyn i gyd wedi gwneud imi werthfawrogi popeth, ond mae hynny yn dangos pa mor freintiedig da ni. Dydi rhai pobl ddim yn cael y cyfle i werthfawrogi eu hawyrgylch ag ati, achos maen nhw di gorfod bod yn gweithio'n galed. Mae'r syniad 'ma bod ni gyd 'yn yr un cwch', ond byswn i'n dweud bo ni ar yr un siwrne, ond dydan ni ddim yn cael yr un profiadau, ac mae'n bwysig bod ni'n cydnabod hynny."
Trefi gwag...ac yna'r twristiaid:
Ifan: "Dwi'n byw yng Nghricieth, ac yn teimlo'n hynod o lwcus i fod pum munud o ganol dre a hefyd pum munud i ffwrdd o ffermydd - o'n i'n gallu mynd am dro am falle dwy awr a dim gweld neb. Ond 'nath pethau newid wedyn achos mwyaf sydyn oedd 'na 'reol pum milltir', a 'nath twristiaeth ailddechrau dros nos.
"O'n i'n gweld carafanau yn dod tuag at Abersoch, a nath Cricieth fynd yn brysurach. Roedd bobl ar wavelengths gwahanol, rhai yn meddwl 'grêt, amser gwyliau!' lle oedden ni heb hyd yn oed gael pobl yn ein gardd ni."
Talulah: "Mae Llangollen yn llawn pobl yn ystod yr haf, ac roedd hi'n braf cael cerdded drwy ghost town ar un pwynt, ond fe newidiodd hynny yn gyflym iawn. Rŵan dwi'n osgoi mynd i dre gan fod o mor brysur, does 'na ddim parcio na ddim byd, mae'r lle yn llawn pobl o'r dinasoedd cyfagos yn Lloegr.
"Dwi newydd wisgo mwgwd yn y stryd, a dwi'n sbïo rownd a meddwl 'oh my gosh, does neb yn gwisgo mwgwd!' Dwi'm yn siŵr sut i deimlo am hyn i gyd achos o'n i'n gwybod bydde pobl yn cael eu denu i Langollen, ma'r llefydd ma'n boblogaidd beth bynnag, ond y gwir ydi mae gan lawer o bobl ddiffyg parch at y rheolau a theimladau a nerfusrwydd pobl eraill."
Manon: "Dwi'n byw yng nghanol Caerdydd, felly allwch chi ddychmygu ar ddechrau'r cyfnod clo roedd hi mor rhyfedd mynd ar feic drwy'r Hayes yng nghanol y ddinas - roedd e'n hollol wag! Ond yn ddiweddar, drwy misoedd yr haf mae pobl wedi bod yn mynd mas mwy, yn enwedig gyda'r 'bwyta mas i helpu mas'- roedd llwyth o bobl mas drwy'r amser, gyda'r bwrlwm yn codi bron dros nos.
"Mae'n od gwybod sut i deimlo amdano - ar un llaw yndi mae'n brysurach ac dydi hynny methu bod yn dda mewn pandemig, ond eto ma'r diwydiant arlwyo, tai bwyta a bariau yn diodde' ac maen nhw angen cefnogaeth. Roedd y newid rhwng y tri mis cyntaf a'r ail gyfnod o dri mis yn amlwg iawn i'w weld."
Talulah: "Un peth sy'n mynd dan fy nghroen i ydy bod lot o bobl hyn yn rhoi bai ar bobl ifanc efo 'bwyta allan i helpu allan' - y Llywodraeth oedd yn annog hynny, oedden nhw wedi ysgogi pobl ifanc i fynd allan, ac yna mae yna bobl sy' di troi hynny ar ei ben a dweud 'mae 'na ormod o bobl ifanc allan, er bod ni 'di deud bod hi'n ok i bawb fynd allan'.....c'mon, bai'r Llywodraeth ydy o. Mae 'na gymaint o bobl ifanc rŵan sy'n apathetic a neith nhw ddim ymddiried yn y Llywodraeth."
Y misoedd nesaf
Ifan: "Dwi'n eitha' pesimist i ddweud gwir. Dwi yn Brifysgol Aberystwyth, ac mae Ceredigion wedi bod yn wych efo cyn lleied o achosion maen nhw 'di cael. Ond eto, bydd Aberystwyth yn dyblu mewn poblogaeth yn y bythefnos nesa gyda chymaint o fyfyrwyr yn dod yma. Dwi'n meddwl mai'r gobaith ydy y gall lockdown cynnar olygu bo' ni'n gallu cael Nadolig 'normal', yn yr un ffordd gafon ni mis Awst eithaf 'normal'.
Talulah: "Mi fydda i yn y Brifysgol yng Nghaergrawnt, ac mi fydd yna gymaint o stiwdants yna a does gen i ddim clem sut mae'r brifysgol am ddelio efo'r holl beth. Mae 'na reolau ac ati wrth gwrs, ond allai ddim gweld nhw'n gweithio - bydd pawb yn cymysgu. Dwi'n poeni am ddod adref at fy rhieni ar ôl bod yn y brifysgol, teimlo gallai ddim rhoi cwtsh iddyn nhw. Ond mae'r holl gyfnod yn golygu bod rhaid i ni addasu i'r sefyllfa."
Hefyd o ddiddordeb: