Ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn cau am y tro olaf

  • Cyhoeddwyd
FordFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Gwener gan ddod â 40 mlynedd o waith cynhyrchu ar y safle i ben.

Cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019 y byddai'r ffatri yn cau.

Ar y pryd dywedodd Ford mai "tanddefnydd ac anghyfartaledd costau o gymharu â ffatrïoedd eraill" oedd yn gyfrifol am eu penderfyniad.

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgrifio'r penderfyniad fel "yr ergyd unigol fwyaf i'n heconomi ers cau'r pyllau glo".

'Defnyddio eu haddysg Gymraeg'

Dywed Meurig Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Llangynwyd, bod y ffatri wastad wedi bod yn gyflogwr pwysig yn yr ardal a bod y gwaith hefyd yn cadw pobl yn yr ardal.

"Ni wedi bod yn hyfforddi pobl i gael swyddi yn y ffatri," meddai, "fel eu bod nhw yn gallu parhau i fyw yn yr ardal hon ac yn gwneud defnydd o'u haddysg Gymraeg.

"Mae Ford wedi dweud bod yna swyddi eraill i bobl ond mae'r rhai hynny dros y ffin - os ydi pobl yn symud maen nhw yn colli eu haddysg Gymraeg ac felly mae hynna'n bryder i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meurig Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Llangynwyd, yn ofni y bydd pobl yn colli eu haddysg Gymraeg

"Mae nifer fawr o'n disgyblion wedi cael prentisiaethau yma ac mae rhai o rieni disgyblion yn gweithio yn Ford - mae nhw wedi wynebu cyfnod o ansicrwydd mawr ac ry'n wedi gorfod meddwl sut i'w cefnogi.

"Nid dim ond Ford sy'n gadael, mae cwmnïau eraill hefyd a beth am ddyfodol y gwaith dur ym Mhort Talbot? Mae ffatrïoedd fel hyn yn rhoi cyfle i bobl aros yn eu hardaloedd genedigol. Dwi'n poeni'n fawr na ddaw rhywbeth yn eu lle," ychwanegodd.

'Anodd denu diwydiant newydd'

Dywed Robert Evans, sy'n ymgynghorydd addysg a chyn is-bennaeth yng Ngholeg Pen-y-bont, bod enw fel Ford yn bwysig ac yn denu pobl i weithio yn yr ardal.

"Mae colli enw eiconig fel hwn yn wael i'r ardal," meddai, "Mae'n gwmni byd enwog sy'n tynnu cwmnïau eraill i'r ardal ac mae cau'r ffatri yn cael effaith ar gwmnïau sy'n cyflenwi Ford hefyd.

"Mae'r effaith yn fawr ar ardal ehangach. Mae pobl yn dod yma o'r cymoedd i weithio ac o ardaloedd ar draws Cymru i ddweud y gwir.

"Mae pobl wedi bod yn teithio milltiroedd am eu bod wedi bod yn swyddi mor dda.

"Bydd hi'n anodd iawn denu diwydiant newydd i'r ardal."

Wrth ymateb i'r diwrnod olaf yn ffatri Ford dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates AS: "Mae'n amlwg y bydd yr economi a'r gymuned leol yn teimlo effeithiau penderfyniad y cwmni i adael y dref am lawer blwyddyn i ddod."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2019 dywedwyd y byddai'r safle yn cau unwaith y byddai y llinell gynhyrchu ar gyfer Jaguar yn dod i ben