Ymchwilio i gynllun ysgol feddygaeth gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y grŵp yn ystyried cynnig gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Bydd y posibilrwydd o sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn cael ei ystyried ymhellach ar ôl i'r llywodraeth sefydlu grŵp ymchwilio.

Ers 2019 mae nifer cyfyngedig o fyfyrwyr yn gallu astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor drwy gynllun ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.

Ond nid oes ysgol feddygaeth lawn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i sefydlu un o'r blaen.

Dywedodd y llywodraeth ei bod am ystyried cynnig gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i sefydlu ysgol feddygaeth.

Bydd y grŵp yn archwilio a ydy'r cynnig yn "ymarferol ac yn gyraeddadwy, ac ai dyma'r cam nesaf yn y broses o ehangu hyfforddiant meddygol yn y gogledd".

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ei fod "wedi ymrwymo i ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y gogledd i helpu i recriwtio meddygon yn y rhanbarth".

Mae disgwyl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen adrodd yn ôl erbyn haf 2021.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mark Polin, bod y cynllun "o bwys mawr" iddo a'i gydweithwyr, a bod ganddo "botensial mawr i fod o fudd i'r gwasanaeth iechyd ac, yn bwysicaf oll, ein cleifion".