Dechrau cynnig gradd Meddygaeth ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
gofal

Daeth cadarnhad y bydd modd i fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd gwblhau eu gradd yn gyfan gwbl o Brifysgol Bangor o hyn ymlaen.

Mae'r cynllun yn ffrwyth gwaith Prifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth i'r gogledd y llynedd.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Bangor bydd y datblygiadau yn "cyfoethogi'r amgylchedd iechyd a dysgu meddygol yng ngogledd Cymru".

Fe fydd y cynllun yn "gosod sylfaen gadarn i sefydlu Ysgol Feddygol lawn ym Mangor", yn ôl AC Arfon, Siân Gwenllian.

Mae myfyrwyr meddygaeth eisioes wedi gallu dewis cwblhau lleoliadau gwaith mewn ysbytai yn y gogledd.

Ond dyma'r tro cyntaf i fyfyrwyr allu dewis i gwblhau eu rhaglen hyfforddi meddygol i gyd yng ngogledd Cymru.

Yn 2017, gwrthododd y Llywodraeth gais i sefydlu ysgol feddygol newydd yn y gogledd gan ffafrio cydweithio agosach rhwng prifysgol Cymru yn lle.

Mae'r cynllun yma rhwng y ddwy brifysgol yn cyd-fynd ag addewid yr Ysgrifennydd Iechyd i ehangu addysg feddygol ledled Cymru.

Eglurodd Mr Gething bod y cynllun yn "adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau y darperir gofal mor agos â phosibl at gartrefi cleifion".

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi datgan eu bod yn rhoi £7m i ariannu 40 o lefydd i fyfyrwyr meddygol ychwanegol ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

'Manteision enfawr'

Un sydd wedi ymgyrchu dros wella cyfleoedd i fyfyrwyr meddygol yn y gogledd ydi'r AC Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Esboniodd bod Cymru yn wynebu "argyfwng" meddygol pan wrthwynebodd y llywodraeth gais am ysgol feddygol yn y gogledd.

Ond croesawu'r cyhoeddiad mae hi'n wneud tro hyn, gan egluro bydd y cynllun yn dod "a manteision enfawr i ddinas Bangor a'i phobol".

"Gallem hefyd ddatblygu arbenigedd yn narpariaeth meddygaeth wledig a hyfforddi meddygon i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd meddygon sydd newydd gymhwyso yn aros yn yr ardal," meddai.

Pwysleisiodd AC Arfon y bydd y cynllun yn "gosod sylfaen gadarn i sefydlu Ysgol Feddygol lawn ym Mangor - yr unig opsiwn synhwyrol hir-dymor er mwyn datrys yr argyfwng iechyd yng ngogledd Cymru".

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor

'Cyfoethogi'r amgylchedd iechyd'

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Bangor bydd cynllun yn "rhoi profiad dysgu cyffrous a gwobrwyol i fyfyrwyr".

"Yn y pen draw, bydd y rhaglen newydd hon yn cynhyrchu meddygon ardderchog sy'n barod ar gyfer anghenion newidiol ein cymunedau, gan arwain at welliant o ran recriwtio a chadw meddygon yng ngogledd Cymru," meddai'r Athro Dean Williams.

"Bydd hyn yn cyfoethogi'r amgylchedd iechyd a dysgu meddygol yng ngogledd Cymru ac yn gwella iechyd a lles cymunedau."

Mae disgwyl i'r rhaglen Meddygaeth MBBCh (C21) gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2019/20.