Pobl yn fwy parod i drafod marwolaeth yn sgil Covid
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig wedi newid y ffordd y mae pobl yn trafod marwolaeth, yn ôl trefnydd seremonïau dyneiddiol sydd wedi gweld effaith y feirws ar deuluoedd.
Mae sawl ffactor wedi gwneud sefyllfa anodd yn fwy heriol, medd Julia Page, gan gynnwys methu ffarwelio ag anwyliaid yn yr ysbyty, a methu cofleidio neu dal dwylo oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol.
"Mae pobl yn fwy agored a gonest," meddai Ms Page, sy'n cynnal ei gwasanaeth o Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.
"Mae Covid wedi gwneud i bobl feddwl a theimlo fod marwolaeth yn agosach nag oeddan ni'n ei feddwl.
"Rwy'n meddwl fod hynny'n un peth da i ddod o'r pandemig. Mae marwolaeth yn anochel i ni gyd - mae'n gwneud synnwyr i ni ddod i delerau â hynny.
"Mae pobl wedi dod yn fwy cyfforddus ynghylch trafod eu marwolaeth eu hunain."
Ychwanegodd fod trafod yn agored "a theimlo bod rhywun yn gallu edrych i'n hagweddau a'n ofnau" yn llesol i iechyd meddwl pobl.
"Fel Samariad ac ymgynghorydd cymwysiedig, rwy'n ymwybodol o bwer gadael i bobl siarad am faterion fydde wedi cael eu hystyried yn rhai tabŵ," meddai.
"Mae ystyried y posibilrwydd yn hytrach na'i osgoi, wynebu ein marwolaeth ein hunain a threfnu ar ei gyfer yn synhwyrol... fel allai ein helpu fel poblogaeth i ddelio ag e.
"Mae datgan ein dymuniadau'n glir yn gymwynas i'n hanwyliaid, ac yn tynnu'r pwysau o wneud penderfyniadau oddi arnyn nhw ar yr adeg pan maen nhw'n gallu delio ag e leiaf."
Dulliau cyfathrebu cyfoes
Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi gorfod addasu i oblygiadau ymarferol yr argyfwng coronafeirws.
Mae'r Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant i ddarpar weinidogion fel Deon Hyfforddiant Cychwynnol i'r Weinidogaeth Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd.
Dywedodd fod gweinidogion "yn gorfod dysgu sgiliau newydd trwy wneud gwaith bugeiliol trwy neges destun, WhatsApp, galwad fideo neu ffôn".
"Gan fod niferoedd mewn angladdau wedi'u cyfyngu, maen anodd iddyn nhw fynd iddyn nhw a chymryd lle gwerthfawr" meddai.
"Y gwahaniaeth mawr dwi wedi'i weld yw bod hi ddim mor hawdd i wneud gwaith wyneb yn wyneb ac felly mae cysuro galarwyr yn anodd iawn pan nad ydach chi yna mewn person.
"Felly mae dysgu i fod yn gyfforddus gyda thawelwch ar y ffôn neu mewn galwad fideo yn bwysig - gadael i bob siarad a gwrando arnyn nhw.
"Mae ein gweinidogaeth diwedd oes wedi gweld newid o ran agwedd," meddai'r Parchedig Charlotte Rushton, o Blwyf Merthyr Tudful, Tyddewi ac Abercanaid.
"O 'mhrofiad i, mae ein cymuned Gristnogol wastad wedi bod yn esmwyth o ran trafod diwedd eu hoes, mewn gobaith sicr o fywyd tragwyddol gyda Duw. Wedi dweud hynny, mae'r gymuned ehangach wedi coleddu claddedigaeth Gristnogol fel erioed o'r blaen.
"Mae cyfran fawr o bobl wedi ystyried angladd Gristnogol yn un 'gweddus'. Eleni, fodd bynnag, mae teuluoedd mewn galar wedi dangos pa mor fregus ydyn nhw fel erioed o'r blaen.
"Mae llawer wirioneddol wedi archwilio'u 'ffydd', y neges Gristnogol a phwy yw Iesu. Mae wedi dod yn amlwg fod mwy o bobl yn cael gwir gysur yn neges yr Efengyl."
Anodd osgoi clywed am farwolaeth
Gyda'r holl sylw i'r pandemig ar y cyfryngau, mae'n anodd osgoi clywed am farwolaeth o leiaf unwaith y diwrnod, medd Julia Page.
Mae angen ystyried yr effaith ar bobol ifanc yn ogystal, meddai, wrth iddyn nhw boeni am iechyd a lles neiniau a theidiau.
"Mae'n bwysig ein bod yn eu galluogi nhw i drafod, er mwyn eu helpu i brosesu'r hyn maen nhw'n ei glywed mewn ffordd realistig ond iach."
Mae'r pandemig, meddai, wedi dod â marwolaeth "yn agosach i'n drysau ni oll.
"Mae wedi agor ein llygaid a'n meddyliau i'r hyn ydy marwolaeth, beth mae'n ei olygu i ni a'n hanwyliaid."
"Dydy trafod marwolaeth ddim yn wahoddiad iddo ddigwydd - mae'n ffordd o ddelio ag e, dod i delerau ag e a symud ymlaen i fyw eich bywyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020