Gwagio cartrefi wedi tân mawr ym Mhentre-chwyth

  • Cyhoeddwyd
Tân Pentre-chwythFfynhonnell y llun, Anthony Quinn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tân yn cynnwys teiars a silindrau

Bu'n rhaid i 75 o bobl adael 25 eiddo nos Sadwrn wedi tân mawr mewn garej ac unedau diwydiannol ym mhentref Pentre-chwyth, yn Abertawe.

Cafodd chwe injan dân, pwmp swmp uchel a phlatfform ysgol awyr eu danfon mewn ymateb i alwad frys am 22:30.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y tân yn cynnwys teiars a silindrau, a'i fod wedi effeithio ar nifer o fusnesau.

Doedd heb angen triniaeth ysbyty yn sgil y digwyddiad, ond mae perchennog un o'r busnesau'n dweud ei fod "wedi colli popeth" yn y tân.

Ffynhonnell y llun, Anthony Quinn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymladdwyr tân yn dal ar y safle ddydd Sul

"Does dim dod yn ôl ar ôl hyn," meddai Rhiannon Haynes-Gibbs, sy'n rhedeg busnes dodrefn. "Rydym wedi'n llorio."

Dywedodd bod y tân wedi effeithio ar bedwar busnes arall, ac y gallai pobl fod o'u cartrefi am beth amser oherwydd yr effaith ar gyflenwad trydan y stryd.

Yn ôl llefarydd y gwasanaeth tân, cafodd adeilad 20m wrth 30m ei ddifrodi'r llwyr.

Roedd un criw yn dal ar y safle fore Sul wrth i'r gwasanaeth ymchwilio i'r achos, ac mae Ffordd Pentre-chwyth ar gau am y tro.

Lloches yn Stadiwm Liberty

Dywedodd Heddlu De Cymru ddechrau prynhawn Sul fod nifer o'r preswylwyr wedi gallu dychwelyd i'w cartrefi.

"Fodd bynnag," meddai llefarydd, "mae nifer o dai'n parhau o fewn y cordon, ac mae trigolion yn cael lloches yn Stadiwm Liberty Stadium neu gyda ffrindiau a pherthnasau nes bydd yn ddiogel iddyn nhw fynd adref. "

Ychwanegodd bod ymchwiliad yn parhau i achos y tân a bod nifer o ffyrdd lleol yn parhau ar gau.

Mae'r llu eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal cyn 22:30 nos Sadwrn neu a allai fod wedi gweld" unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal tua'r adeg hynny".