'Ffieiddio gan ddeuoliaeth' cyn-gyflwynydd teledu
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad dedfrydu cyn-weinidog efengylaidd a chyn-gyflwynydd newyddion gyda BBC Cymru wedi dechrau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Plediodd Ben Thomas yn euog i 40 o gyhuddiadau yn ymestyn dros dri degawd, o 1990 hyd 2019, mewn gwrandawiad ym mis Gorffennaf.
Roedd y troseddau'n cynnwys ymosod yn rhywiol, sbecian (voyeurism) a chreu delweddau anweddus o blant.
Fe ddigwyddodd y troseddau, yn erbyn bechgyn a dynion, yng ngogledd Cymru, Sir Amwythig, Llundain a Romania.
Roedd rhai o'r troseddau'n dyddio'n ôl i pan roedd Thomas yn ei arddegau.
Dywedodd un unigolyn oedd wedi ei gam-drin mewn datganiad dioddefwr ei fod yn maddau iddo gan "nad oedd neb yn rhy ddrwg i Iesu".
Ond fe ddywedodd dioddefwr arall ei fod wedi ei "ffieiddio gan ddeuoliaeth bodolaeth Ben", fel pregethwr "ernest" ar un llaw, tra'n cyflawni camdriniaeth dro ar ôl tro ar y llaw arall.
'Ysbrydion tywyll'
Dywedodd yr erlynydd Simon Rogers fod un dyn yn credu fod "ysbrydion tywyll" yn ei gam-drin pan ddioddefodd gamdriniaeth un noson wedi iddo fynd i gynhadledd pregethwyr.
Cafodd Ben Thomas ei arestio ar 19 Medi y llynedd ond ni atebodd gwestiynau'r heddlu ar y pryd.
Ar 10 Hydref aeth at yr heddlu yn Wrecsam a chyfaddef i droseddau yn erbyn nifer fawr o ddioddefwyr dros gyfnod o 30 mlynedd.
Dywedodd Mr Rogers wrth y llys yn ystod y gwrandawiad dedfrydu: "Doedd gan y mwyafrif o ddioddefwyr ddim syniad ei fod wedi eu cam-drin yn rhywiol."
Fe adawodd Thomas y BBC i fynd yn weinidog efengylaidd gan ddod, maes o law, yn weinidog ar Eglwys Deuluol Cricieth yng Ngwynedd.
Dywedodd Eglwys Deuluol Cricieth mewn datganiad wedi iddo bledio'n euog i'r troseddau fod ei "arestiad ym Medi 2019 yn fraw i'r eglwys, y gymuned yng Nghricieth a thu hwnt.
"Mae'r eglwys yn ddiolchgar am y consyrn a'r ddealltwriaeth a ddangoswyd i ni gan ein cymdogion yng Nghricieth a hwythau hefyd yn dygymod â galar, dryswch a dicter am y troseddau a'r twyll."
Ychwanegodd y datganiad: "Mae ein gweddïau yn awr dros y dioddefwyr a'u teuluoedd."Cafodd y gwrandawiad ei ohirio nes ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019