Tair yn rhagor o farwolaethau gyda Covid-19

  • Cyhoeddwyd
prawf

Mae 366 yn fwy o achosion coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd yna dair o farwolaethau yn y 24 awr diwethaf gan godi'r cyfanswm i 1,615 - y dair yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

Mae'r achosion positif diweddaraf yn cynnwys 61 o achosion yn Rhondda Cynon Taf, 53 yng Nghaerdydd, 39 ym Mhen-y-bont, 28 yn Abertawe, 25 ym Mlaenau Gwent a 15 yng Nghastell-Nedd Port Talbot.

Roedd yna 16 o achosion newydd yn Sir Gâr, gyda 11 yng Ngheredigion.

Mae cyfradd Blaenau Gwent dros gyfnod o saith diwrnod wedi codi i 307.7 am bob 100,000 o'r boblogaeth - yr ail gyfradd uchaf yn y DU.

O ran y gogledd, roedd y niferoedd wedi aros yn debyg i ddydd Llun.

Ond nos Fawrth daeth cadarnhad bod cyfyngiadau llymach yn dod i bedair sir yn y gogledd ddydd Iau.

Erbyn hyn, Sir y Fflint sydd â'r gyfradd uchaf yn y gogledd gyda 45.5. Y ffigwr ar gyfer Conwy yw 42.7 gyda Sir Ddinbych ar 41.8.

Mae'r achosion ar Ynys Môn wedi gostwng i 14.3 tra bod Gwynedd - yr unig awdurdod nad sydd yn y categori ambr - yn parhau yn isel ar 13.6.

Yn ôl y ffigyrau diweddara mae'r raddfa R yng Nghymru nawr rhwng 1.0 a 1.4, ond y gred yw bod y ffigwr go iawn yn uwch.

Dyma'r rhif sy'n awgrymu nifer y bobl sy'n cael eu heintio gan bob person sydd gyda coronafeirws - os yw'r rhif yn codi, mae'r haint yn lledu'n gyflymach.

Y ffigwr blaenorol ar gyfer graddfa R oedd rhwng 0.7 a 1.2.