Galw am adnewyddu tai i roi hwb i'r economi wedi corona
- Cyhoeddwyd
Gallai adnewyddu tai Cymru er mwyn arbed ynni greu swyddi fel rhan o gynllun i adfer economi'r wlad wedi argyfwng coronafeirws - dyna mae cynrychiolwyr o'r diwydiant adeiladu yn ei ddweud.
Maen nhw'n dweud y gallai gosod y dechnoleg ddiweddaraf a defnyddio deunydd inswleiddio gwell mewn tai arbed ynni, cwtogi biliau a helpu taclo newid hinsawdd.
Mae Ffederasiwn y Meistri Adeiladu eisiau bwrw mlaen â'r cynllun yng Nghymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan y sector dai rôl pwysig yn 'adferiad gwyrdd' Cymru wedi Covid-19.
Yn ôl cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistri Adeiladu, Ifan Glyn, mae gan Gymru y stoc dai hynaf yn Ewrop, a byddai buddsoddi mewn cynllun i uwchraddio effeithlonrwydd ynni yn hwb aruthrol i'r diwydiant adeiladu.
"Byddai cynllun o'r fath yn ticio pob bocs - creu swyddi da o safon, yn hwb i dwf economaidd a hefyd yn taclo tlodi tanwydd a newid hinsawdd," dywedodd.
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae un o grwpiau cynghori tai di-garbon Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylai'r cynllun ganolbwyntio ar dai cyngor, tai cymdeithasol a chartrefi preifat sy'n wynebu tlodi tanwydd.
Byddai hynny'n cynnwys 21% o 1.4 miliwn o gartrefi Cymru - sef 300,000.
Tlodi Tanwydd yng Nghymru
Daeth arolwg annibynnol i'r casgliad llynedd bod 12% o dai Cymru yn dioddef o dlodi tanwydd.
Yn ôl cadeirydd y grŵp ymgynghori, Christopher Jofeh, byddai angen arian cyhoeddus i weithredu cynllun adnewyddu gwyrdd.
"Bydd costau yn uchel a fydd llawer o bobl ddim yn gallu ei fforddio fe," dywedodd, "felly byddwn ni angen arian cyhoeddus. Does dim amheuaeth gen i, tasai llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun 10 mlynedd y byddai'r diwydiant yn ymateb.
"Byddai canolbwyntio ar y costau yn unig yn golygu methu'r darlun ehangach," ychwanegodd, "sef manteision fel biliau tanwydd is, lleihau nwyon tŷ gwydr, mwy o swyddi, gwella iechyd pobl sy'n byw mewn tai oer a thamp, a chyllid treth anferthol i'r trysorlys i dalu am welliannau gwasanaethau cyhoeddus. Ydi mae'n ddrud, ond yn hanfodol ac yn sicrhau manteision enfawr."
32%- canran o dai Cymru a gafodd eu hadeiladu cyn 1919
43%- canran o denantiaid preifat sydd yn byw yn y tai
£0.5bn i £1bn- swm blynyddol a ddylai gael ei wario ar adnewyddu tai
Mae rhai awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau ar y dasg o sicrhau bod gan eu stoc dai y dechnoleg carbon niwtral ddiweddaraf.
Roedd rhes o dai cyngor yng Nghraig-cefn-parc ger Clydach ar gyrion Abertawe arfer defnyddio tanwydd olew, LPG a gwresogyddion trydan. Nawr, mae deunydd inswleiddio newydd wedi'u gosod yn y waliau.
Mae 'na system sy'n ffiltro'r aer drwy dyllau awyr yn y nenfwd wedi cael ei osod hefyd, yn ogystal â batri Tesla sy'n storio trydan sy'n cael ei greu gan baneli solar.
Mae Cymdeithas Dai Cymunedol Cymru wedi dweud bod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cartref da o ran lles personol pawb. Maen nhw'n dweud y dylai tai nawr fod wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd Cymru.
Maen nhw'n dweud y gallai greu 50,000 o swyddi newydd, arbed gwerth £1.8bn o danwydd i denantiaid a sicrhau gwerth dros £23.2bn o weithgaredd economaidd dros yr 20 mlynedd nesaf.
"Mae tai o safon isel yn costio dros £95m i'r GIG bob blwyddyn, ac mae buddsoddi mewn cymdeithasau tai yn allweddol i sicrhau'r tai fforddiadwy o safon sydd eu hangen ar Gymru i daclo hyn," dywedodd llefarydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud: "Ry'n ni wedi ymrwymo i'r adferiad gwyrdd wedi'r pandemig. Mae gan dai rôl bwysig i sicrhau Cymru decach yn y dyfodol.
"Yn hwyrach eleni, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar gynllun newydd i daclo tlodi tanwydd fydd yn cynnwys buddsoddi yn y Cynllun Tai Cynnes ac yn archwilio ffyrdd newydd o helpu lleihau tlodi tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019