206,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cymru oedd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i brofi cynnydd yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi rhwng 2017-18, yn ôl gwaith ymchwil elusennau.
Roedd dros 206,000 o blant yng Nghymru - 29.3% - yn byw mewn tlodi, sy'n gynnydd o 1%.
Yn ôl elusen Plant yng Nghymru mae rhieni'n gorfod gwneud "penderfyniadau amhosib" o fwydo eu hunain neu eu plant.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod newidiadau ym mholisïau llesiant Llywodraeth y DU yn arwain at fwy o dlodi.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ceisio cefnogi teuluoedd i wella eu bywydau trwy waith.
Fe ddangosodd yr ymchwil mai'r ardaloedd oedd â'r canran uchaf o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru - 35% - oedd etholaethau De Caerdydd a Phenarth, Cwm Cynon a'r Rhondda.
Mae 1/3 o blant sy'n byw yng nghymoedd y de, gan gynnwys Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful hefyd yn byw mewn tlodi.
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos manylder penodol, fel faint o blant sy'n byw mewn tlodi ym mhob ward unigol mewn cynghorau lleol.
Ym Mhenrhiwceibr yng Nghwm Cynon, er enghraifft, roedd bron hanner y plant yno yn byw mewn tlodi.
Cafodd y gwaith ymchwil gan Brifysgol Loughborough ei gomisiynu gan glymblaid o sefydliadau sy'n cynorthwyo plant, sef Plant yng Nghymru, Oxfam Cymru, Barnardo's Cymru ac Achub y Plant.
Tlodi Caerdydd
Mae'r ymchwil yn awgrymu fod saith o'r deg ward yng Nghymru lle roedd tlodi plant ar ei waethaf yng Nghaerdydd.
Mae'n amcangyfrif fod oddeutu 2,342 yn ardal Grangetown a 2,183 yn Nhrelái.
Mae Ysgol Glan Morfa yn ysgol Gymraeg yn Sblot yng Nghaerdydd, ac mae ffigyrau'n dangos fod tua 35% o blant yr ardal yn byw mewn tlodi.
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Meilir Thomas eu bod nhw'n "ymwybodol fod teuluoedd yn cael trafferth mewn gwahanol ffyrdd".
Dywedodd bod sawl ffordd maent yn ceisio rhoi cymorth: "Yn ogystal â'n clwb brecwast mae gennym gynllun i ailgylchu hen wisgoedd ysgol plant sydd eisoes yn rhy fawr iddyn nhw."
'Dewisiadau amhosib'
Yn ôl Siôn O'Neil, o elusen Plant yng Nghymru, mae disgwyl i fwy o blant fyw mewn tlodi dros y blynyddoedd nesaf.
"Mewn sawl man yng Nghymru, nid yw tyfu mewn tlodi bellach yn eithriad, a'r hyn mae'n ei olygu o ddydd i ddydd yw bod rhieni'n gorfod gwneud dewisiadau amhosib.
"Mae'n rhaid iddyn nhw ddewis a ydynt yn bwydo eu plant neu fynd heb fwyd eu hunain, a phethau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol fel gwres a chyfleusterau hamdden."
Yn ogystal â cheisio a mynd i'r afael â thlodi mae'r elusennau'n galw ar wleidyddion i ymrwymo i leihau lefelau tlodi plant yn eu maniffesto cyn Etholiadau'r Cynulliad yn 2021.
Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i lunio strategaeth "gredadwy" i leihau'r niferoedd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddod â thlodi ymysg plant i ben erbyn 2020, ond nawr maen nhw'n dweud bod newidiadau ym mholisïau llesiant Llywodraeth y DU yn golygu na fyddan nhw'n eu cyrraedd.
Dywedodd llefarydd nad oedd yr adroddiad yn syndod, a'u bod yn cymryd camau gan gynnwys helpu pobl i dalu treth y cyngor a chynnig phrydau ysgol am ddim.
Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw'n ceisio cefnogi teuluoedd i wella eu bywydau trwy waith, gan ddweud bod "plant sy'n tyfu i fyny mewn aelwydydd sy'n gweithio pum gwaith yn llai tebygol o fod mewn tlodi cymharol".
Ychwanegodd llefarydd: "Ond rydym yn cydnabod bod rhai teuluoedd angen mwy o gefnogaeth a dyna pam rydym yn parhau i wario £95bn y flwyddyn ar fudd-daliadau oedran gweithio a darparu prydau ysgol am ddim i fwy na miliwn o blant mwyaf difreintiedig y wlad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2019