Newcastle yn trechu Casnewydd ar giciau o'r smotyn
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Tristram Abrahams o fewn pum munud i roi Casnewydd ar y blaen
Mae Casnewydd allan o Gwpan y Gynghrair wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Newcastle ar giciau o'r smotyn yn Rodney Parade nos Fercher.
Aeth y tîm o Adran Dau ar y blaen o fewn pum munud, wrth i golwr Newcastle, Mark Gillespie wneud smonach o ergyd Tristram Abrahams.
Bu bron i'r Alltudion ddyblu eu mantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gydag ergyd Scot Bennett o du mewn i'r cwrt cosbi yn mynd dros y trawst.
Er i'r tîm o'r Uwch Gynghrair bwyso trwy gydol yr ail hanner, llwyddodd amddiffyn Casnewydd i aros yn gadarn, gydag ambell arbediad allweddol gan y golwr Nick Townsend.

Llwyddodd Newcastle i sgorio gyda phum munud yn weddill diolch i ergyd wych gan Jonjo Shelvey
Ond gyda phum munud yn weddill llwyddodd Jonjo Shelvey i grymanu ergyd i gornel ucha'r rhwyd i'w gwneud hi'n gyfartal.
Roedd hynny'n golygu mai ciciau o'r smotyn fyddai'n penderfynu pwy fyddai'n fuddugol, ac ergyd Brandon Cooper dros y trawst roddodd y fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Roedd Yr Alltudion wedi llwyddo i drechu Abertawe, Caergrawnt a Watford i gyrraedd y bedwaredd rownd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Medi 2020