Paul Davies: 'Rhaid parchu'r hyn sydd heb ei ddatganoli'

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Yn fy llywodraeth i bydd gweinidogion yn stopio credu bod ganddynt bwerau na sydd ganddynt," medd Paul Davies

Mae parchu datganoli yn golygu parchu yr hyn sydd ddim wedi'i ddatganoli hefyd, yn ôl arweinydd y blaid Geidwadol yng Nghymru.

Dywed Paul Davies AS y byddai Llywodraeth Geidwadol Gymreig ddim yn esgus bod "â chyfrifoldeb dros yr hyn sydd heb ei ddatganoli".

Ar drothwy eu cynhadledd rithiol, dywedodd y byddai'n cael gwared ar gyrff sy'n cynghori ar faterion sydd heb eu datganoli fel cyfiawnder troseddol, mudo a cheisio lloches.

"Ond fe fydd datganoli yn newid petai llywodraeth Geidwadol mewn grym yn y Senedd," meddai Mr Davies.

"Bydd hi'n gwbl amlwg pa lywodraeth fydd yn rheoli pa bolisi, bydd materion datganoledig yn cael eu rheoli gan fy llywodraeth i a'r rhai sydd heb eu datganoli gan Boris.

"Bydd agenda bendant gan y ddwy lywodraeth sy'n golygu na fydd y naill lywodraeth na'r llall yn troedio ar dir ei gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

"Cymru fydd yn llywodraethu ar faterion datganoledig a San Steffan ar yr hyn sydd ddim wedi'i ddatganoli"

Mae hefyd yn dweud nad ydy Bil y Farchnad Fewnol yn ddiwedd ar ddatganoli.

Ddechrau Medi, dywedodd Gweinidog Pontio Ewropeaidd Cymru bod angen "eglurder ar frys" gan Lywodraeth y DU na fydd yn rhoi'r pŵer iddi'i hun i wario ar faterion datganoledig ar ôl Brexit.

Yn ôl Jeremy Miles, pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud hynny, fe fyddai'n "dadwneud datganoli".

'Dim credu mai ni yw'r Swyddfa Gartref'

Ychwanegodd Mr Davies y byddai'n cynnal ymchwiliad manwl o fewn blwyddyn wedi i'w blaid ddod i rym ac yn dweud na fydd ei blaid yn smalio bod â grym dros faterion na sydd wedi'u datganoli.

"Dyw cysylltiadau rhyngwladol ddim wedi'u datganoli," meddai.

"Dydyn nhw erioed wedi bod ac o dan fy ngoruchwyliaeth i fydd gweinidogion yn stopio credu bod ganddynt bwerau na sydd ganddynt.

"Bydd Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn cael gwared ar gyrff sy'n cynghori ar gyfiawnder troseddol a ddim yn amharu ar y system lloches gan fod mudo a cheisio lloches yn faterion sydd ddim wedi'u datganoli.

"Fyddwn ni'n stopio esgus mai'r Swyddfa Gartref yw Llywodraeth Cymru."

Mae'n dweud hefyd y "byddai llywodraeth Geidwadol yn canolbwyntio ar faterion y mae gennym bwerau drostynt sef addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a datblygu economaidd".

"Mae hwn yn newid a fydd yn dod â chanlyniadau ac yn rhoi diwedd ar ddiwylliant bodlon Llywodraeth Cymru sy'n creu gwastraff o biliwn o bunnau," meddai.

"Bydd y newid hwn mewn datganoli yn creu amgylchedd i fusnesau ddechrau a ffynnu, yn buddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn creu mwy o swyddi a refeniw.

"Bydd y newid hefyd yn sicrhau na fydd tanwario yn y ddarpariaeth i bobl ifanc er mwyn iddynt ffynnu ac yn dod â swyddi a buddsoddiadau i Gymru," ychwanegodd.