'Rhithiol': Honiad San Steffan ar wariant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae sôn y bydd gweinidogion y DU yn gwario mwy yng Nghymru yn "rhithiol" yn ôl llefarydd Llafur ar Gymru, Nia Griffith.
Mae ASau wedi bod yn trafod deddf ddrafft newydd a fyddai'n rhoi grym i weinidogion y DU wario ar feysydd sydd wedi'u datganoli.
Dywedodd Ms Griffith ei bod yn "chwerthinllyd i weld ASau Torïaidd yn siarad am wario", gan fynegi pryder y byddai hyn yn arwain at doriadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Ond mynnodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, y bydd y pwerau yn golygu bod "mwy o arian yn dod i mewn i Gymru".
Byddai Bil y Farchnad Fewnol yn trosglwyddo pwerau o'r Undeb Ewropeaidd i lywodraeth y DU i wario ar feysydd megis datblygu economaidd, isadeiledd a chwaraeon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo San Steffan o "ddwyn pwerau" o lywodraethau datganoledig.
Dyma'r rhan o'r mesur sydd wedi hollti ASau o Gymru yn ystod y dadlau dros yr wythnos ddiwethaf.
Dyweodd yr AS Llafur Alex Davies-Jones ei fod yn "ymdrech wan at ddinistrio'r setliad datganoli" ond mynnodd Stephen Crabb o'r Ceidwadwyr y bydd llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau i wario ymhob rhan o'r DU ac nad oedd "hynny'n beth dadleuol, os ydych chi'n unoliaethwr".
Dywedodd Ben Lake AS ar ran Plaid Cymru fod gweinidogion y DU "wedi methu gwneud y gorau o'r pwerau sydd ganddyn nhw'n barod" yng Nghymru.
Dywedodd Ms Griffith wrth raglen BBC Politics Wales bod "nifer o brosiectau, fel trydaneiddio rheilffyrdd Cymru, lle dy'n ni ddim wedi gweld y Torïaid yn gwario arian" fel y gwnaethon nhw addo.
"Os edrychwch chi ar y gyllideb ddatganoli, beth sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf yw bod y Torïaid wedi torri, a thorri a thorri.
"Mae hyn yn hollol rhithiol. Mae'n chwerthinllyd i weld ASau Torïaidd yn siarad am wario pen ry'n ni'n gwybod yn iawn mai nid dyna maen nhw wedi bod yn neud.
"Beth fydd y ddeddf yma mewn gwirionedd yw caniatáu i weinidog llywodraeth y DU i ymyrryd mewn rhywbeth sy'n amlwg wedi'i ddatganoli.
"Byddai'n caniatau i lywodraeth y DU benderfynu os ydyn nhw eisiau gwario ar rywbeth ac yna, wrth gwrs, be wnawn nhw yw dweud 'ry'n ni wedi gwario yn fanna, felly ry'n ni am dynnu hwnna allan o'r gyllideb [i Gymru]'.
"Byddai'r hyn sy'n weddill i ni ddewis sut i'w wario yng Nghymru yn sylweddol llai."
'Arweiniad gan y farn yn lleol'
Mynnodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, y bydd pwerau newydd llywodraeth y DU yn golygu mwy o arian i Gymru.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn y broses yma ein bod yn ystyried teimladau lleol, angen lleol, ardaloedd lleol sydd efallai angen mwy o help llaw yn nhermau buddsoddiad," meddai.
"Dyna lle mae awdurdodau lleol yn dod i mewn iddi. Ddylen ni ddim dweud 'ry'n ni'n gwybod orau, ry'n ni'n mynd i fuddsoddi lle ry'n ni'n teimlo sydd orau' - rhaid i ni gael ein harwain gan y farn yn lleol."
Does dim manylion wedi'u cyhoeddi o beth fydd yn cymryd lle arian o'r Undeb Ewropeaidd, na sut fydd yn cael ei wario, ond dywedodd Mr Hart y byddai'r ardaloedd mwyaf anghenus" yn cael eu hystyried.
"Ry'n ni am fod yn fwy manwl am dargedu'r ardaloedd sydd gyda'r angen mwyaf - mae hynny'n rhan o beth yr ydym am wneud fan hyn. Dwi ddim yn credu bod unrhyw berygl am hynny."
Yn ail ddarlleniad y mesur yn Nhŷ'r Cyffredin fe wnaeth ASau Llafur ymatal yn hytrach na phleidleisio o blaid neu yn erbyn.
Gofynnwyd i Ms Griffith a fyddai Llafur yn pleidleisio am y mesur yn y trydydd darlleniad, ac atebodd: "Mae problemau sylfaenol gyda'r bil gan ei fod yn torri cyfraith rhyngwladol, ac mae'n torri nôl ar y setliad datganoli.
"Dydw i ddim yn gweld llawer o obaith y bydd y llywodraeth yn derbyn y math o welliannau a fyddai'n newid hynny. Byddai angen newid sylweddol i ni fedru cefnogi'r bil."
Bydd BBC Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC 1 am 10:00, ac ar gael ar iPlayer wedi'r darllediad yna.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020