Aelwydydd estynedig i bobl sy'n byw ar ben eu hunain

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu newid i gefnogi pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain o ddydd Sadwrn ymlaen, wedi cyhoeddiad y prif weinidog.

Ar hyn o bryd mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau llymach mewn grym wedi'u gwahardd rhag cyfarfod â phobl o aelwydydd eraill dan do.

O 3 Hydref ymlaen, bydd pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol, gan gynnwys rhieni sengl, yn cael ffurfio aelwyd estynedig dros dro.

Bydd rhaid i'r aelwyd arall fod yn yr un ardal leol, ac mae uchafswm o chwech yn cael bod ynddynt.

Y bwriad ydy atal pobl rhag teimlo'n unig ac yn ynysig, meddai'r llywodraeth.

Roedd Mark Drakeford eisioes wedi dweud na fydd newidiadau mawr eraill yn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau Cymru.

Mae 2.3 miliwn o bobl bellach yn wynebu cyfyngiadau lleol wedi iddynt gael eu cyflwyno mewn 16 ardal ar draws gogledd a de Cymru.

Daeth cyfyngiadau newydd i rym yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam am 18:00 ddydd Iau yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.

Yn yr ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol, mae'r rheolau sy'n caniatáu pobl i ffurfio aelwyd estynedig o gartrefi gwahanol wedi'u gwahardd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd y cyfyngiadau yn llacio yng Nghymru i gefnogi pobl sy'n byw ar ben eu hunain

Wrth gyhoeddi'r newid, dywedodd Mr Drakeford na ddylai "neb ohonom ni orfod wynebu'r coronafeirws ar ein pen ein hunain".

"Bydd creu swigod dros dro i bobl sengl a rhieni sengl mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol yn sicrhau bod ganddyn nhw'r cymorth emosiynol angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn."

'Dim newidiadau arall y tro yma'

Yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd: "Ni'n gwybod bod lot o gymhlethdod yn y sefyllfa ar hyn o bryd - dyna pam ni ddim yn mynd i wneud newidiadau arall y tro yma.

"Ond ni wedi clywed beth mae pobl wedi dweud wrthon ni - mae nifer o bobl fregus sy'n byw ar eu pen eu hunain, ac ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn gallu cael cyswllt gyda neb arall, ac mae hynny yn cael effaith ar bethau fel iechyd meddwl.

"Felly mae cyfle i ni wneud rhywbeth, ni'n ei wneud e yn ofalus fel ry'n ni'n trial gwneud bob tro, a'r gobaith yw y bydd hynny'n help i bobl."

Beth yw cyfyngiadau lleol?

Does dim hawl teithio mewn nac allan o ardal lle mae cyfyngiadau lleol heb esgus rhesymol sef:

  • gweithio, os nad ydych yn gallu gweithio o adref;

  • darparu gofal;

  • teithio ar gyfer addysg;

  • hyfforddiant a chystadlaethau chwaraeon proffesiynol;

  • darparu neu dderbyn cymorth brys;

  • cael mynediad neu dderbyn gwasanaeth cyhoeddus neu cyfarfod â gofyn cyfreithiol;

  • diogelu eich hun rhag niwed neu salwch neu ddianc rhag y posibilrwydd o niwed.

Mae modd teithio drwy'r ardaloedd yma - er enghraifft, ar ffyrdd fel yr A55 a'r M4.

Mae unigolion ond yn cael cyfarfod y tu allan i'w cartrefi.

Mae'r rheolau yn gymwys i bob sir yng Nghymru heblaw am Sir Fynwy, Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Powys a rhannau o Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno i ddelio gyda'r cynnydd yn achosion Covid-19. Caerffili oedd y sir gyntaf a dydd Iau cyhoeddwyd bod y cyfyngiadau mewn grym yno am wythnos arall.

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi croesawu'r newid.

Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae'r cyfnodau clo wedi bod yn hir, a dydyn ni ddim drwyddi eto, felly er fy mod yn croesawu'r penderfyniad, allwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd datrysiad hirdymor i unigrwydd a'r effaith all gael ar iechyd meddwl."