10 mlynedd o garchar i'r cyn-gyflwynydd teledu Ben Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-gyflwynydd teledu a phregethwr Ben Thomas wedi ei ddedfrydu i 10 mlynedd a phedwar mis o garchar.
Plediodd Thomas, 44 ac o'r Fflint, yn euog i 40 o gyhuddiadau yn ymestyn dros dri degawd, o 1990 hyd 2019, mewn gwrandawiad ym mis Gorffennaf.
Roedd y troseddau'n cynnwys ymosod yn rhywiol, sbecian (voyeurism) a chreu delweddau anweddus o blant.
Fe ddigwyddodd y troseddau, yn erbyn bechgyn a dynion, yng ngogledd Cymru, Sir Amwythig, Llundain a Romania.
Roedd rhai o'r troseddau'n dyddio'n ôl i pan oedd Thomas yn ei arddegau.
'Cyfrinach dywyll'
Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore dydd gwener, dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrtho:
"Am bron i 30 mlynedd tan i chi gael eich arestio yn 2019, roeddech yn cuddio cyfrinach dywyll - sef eich bod yn droseddwr camdriniaeth rhyw, gyda'r mwyafrif o'ch dioddefwyr yn fechgyn yn eu harddegau.
"Fe ddechreuoch eich troseddu pan yr oeddech chi eich hun yn eich arddegau.
"Fe wnaethant barhau yn ystod y cyfnod pan roeddech yn arweinydd eglwys uchel eich parch, ac i wneud pethau'n waeth fe wnaethoch chi gamddefnyddio eich sefyllfa i ddewis a dethol dioddefwyr - rhai yn eich cartref eich hun."
Roedd Thomas wedi gweithio i'r BBC fel gohebydd a chyflwynydd cyn symud i Lundain i fod yn bregethwr.
Dychwelodd i Gymru yn 2008 i bregethu yng Nghricieth, Gwynedd.
Dywedodd y barnwr mai "hoff ddull cam-drin" Thomas oedd aros nes bod ei ddioddefwyr yn cysgu.
Ychwanegodd ei fod wedi cam-drin un plentyn tra roedd dau o'i blant yn cysgu yn yr un ystafell.
Dywedodd y byddai'r ddedfryd wedi bod yn un o dros 30 mlynedd cyn ei haddasu i ystyried ffactorau fel credyd am bledio'n euog.
'Camddefnyddio ei safle'
Dywedodd un unigolyn oedd wedi ei gam-drin mewn datganiad dioddefwr ei fod yn maddau iddo gan "nad oedd neb yn rhy ddrwg i Iesu".
Ond fe ddywedodd dioddefwr arall ei fod wedi ei "ffieiddio gan ddeuoliaeth bodolaeth Ben", fel pregethwr "ernest" ar un llaw, tra'n cyflawni camdriniaeth dro ar ôl tro ar y llaw arall.
Wth ymateb i'r ddedfryd, dywedodd Gareth Evans, Ditectif Brif Uwch-arolygydd Dros Dro gyda Heddlu Gogledd Cymru, ei fod yn croesawu'r ddedfryd.
"Wnaeth o gam-ddefyddio ei safle fel gweinidog yn yr eglwys - lle ddylai o fod wedi rhoi hyder a gobaith i bobl ifanc, mae o wedi eu cam-drin yn rhywiol ac achosi lot o ddifrod.
"Mae wedi bod yn ymholiad sensitif iawn. Mae swyddogion o Heddlu'r Gogledd wedi mynd dros Gymru a Lloegr i gyd ac hyd yn oed cysylltu gyda phlant yn Romania.
"Mae wedi bod yn anodd iawn esbonio i bobl beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, ac yn aml mae hynny wedi cael effaith fawr ar lot o'r unigolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020