Rhybudd oren o dywydd garw dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd oren y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd oren y berthnasol i fwyafrif siroedd Cymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion am law trwm fydd yn effeithio rhan helaeth o Gymru dros y penwythnos.

Bydd rhybudd oren yn dod i rym mewn 17 sir rhwng 12:00 ddydd Sadwrn a 06:00 ddydd Sul wrth i fand o law symud yn araf dros Gymru tua Lloegr.

Mae hynny ar ben rhybudd melyn am law trwm oedd eisoes wedi'i gyhoeddi sy'n berthnasol i Gymru gyfan rhwng 03:00 ddydd Sadwrn a 1200 ddydd Sul.

Mae'r rhybudd oren yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent

  • Caerfyrddin

  • Caerffili

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Dinbych

  • Gwynedd

  • Merthyr Tudful

  • Mynwy

  • Penfro

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

  • Wrecsam

  • Y Fflint

  • Ynys Môn

Gall yr amodau achosi llifogydd a thrafferthion teithio.

Fe allai rhai mannau weld 25-50 mm o law, 70-90 mm ar dir uchel ac mae potensial o dros 120 mm ym mannau mwyaf agored ucheldiroedd Eryri.

Dywed y Swyddfa Dywydd hefyd fod "cyfeiriad anarferol y gwynt" yn golygu bod y glaw trymaf yn debygol mewn mannau sy'n fwy cysgodol a sych fel arfer yn ystod cyfnodau o dywydd llai sefydlog.