Johnson yn gwrthod gwahardd teithio o Loegr i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson yn apelio ar bobl "i ddefnyddio'u synnwyr cyffredin" a dilyn y rheolau atal corofaneirws

Mae galwad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i wahardd pobl rhag teithio o ardaloedd yn Lloegr sydd o dan gyfyngiadau Covid-19 i ddod ar wyliau yng Nghymru wedi cael ei wrthod gan Brif Weinidog y DU.

Dywedodd Boris Johnson wrth BBC Cymru: "Dydw i ddim eisiau gosod cyfyngiadau teithio ar draws y DU yn gyffredinol.

"Rydym oll yn un wlad - dylai pobl ddefnyddio'u synnwyr cyffredin.

"Dylen nhw dilyn y canllawiau. A dyna rydym am ei wneud."

Dywedodd Mr Drakeford wrth Aelodau o Senedd Cymru ddydd Llun ei fod wedi ysgrifennu at Mr Johnson yn erfyn arno i wahardd teithiau diangen mewn ardaloedd ble mae cyfyngiadau lleol mewn grym.

Dan reolau Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i drigolion sy'n byw dan gyfyngiadau lleol gael "esgus rhesymol" i'w gadael, sy'n cynnwys teithio am resymau gwaith, addysg a gofal.

Dydy'r esgusodion "rhesymol" ddim yn cynnwys mynd ar wyliau, yn wahanol i'r canllawiau yn Lloegr, ac mae Mr Drakeford wedi galw ar Mr Johnson i gyflwyno'r un rheol dros y ffin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n amhosib i bobl ymweld ag ardaloedd yng Nghymru ble mae yna gyfyngiadau lleol, ond mae llawer o atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd Cymru mewn ardaloedd ble mae niferoedd achosion coronafeirws yn gymharol isel.

Dywedodd Mr Drakeford: "Wrth i ni weithredu i atal pobl sy'n byw mewn hotspots yng Nghymru rhag teithio i Loegr a mynd â risg y feirws gyda nhw, dylai'r Prif Weinidog wneud yr un peth ac atal pobol o hotspots Lloegr rhag teithio i lefydd eraill oherwydd y risg ddiamheuol sy'n deillio o hynny."

Lledu'r feirws 'yn ddifeddwl'

Mewn cyfweliad i raglen Politics Wales, dywedodd Boris Johnson ei fod wedi clywed pryderon Mr Drakeford ond fe wrthododd y posibilrwydd o osod cyfyngiadau teithio yn y dyfodol agos.

Ychwanegodd ei fod yn agored i'r syniad i gymryd camau pellach yn y dyfodol "os mae'n angenrheidiol".

"Wrth gwrs mi edrychwn ni ar hynny, ac rwy'n clywed beth mae Mark Drakeford yn ei ddweud yn glir. Ond yr hyn y dymunwn yw lleihau niferoedd y feirws hyd a lled y wlad, ond yn arbennig mewn ardaloedd hotspot a dyna pam rydym wedi gosod y mesurau yr ydym wedi'u gosod.

"Rydym eisiau sicrhau fod pobl yn gyfrifol ac rwy'n erfyn ar bobl sy'n dod o bobl o ardaloedd ble mae cyfradd uchel o heintusrwydd i beidio â mentro ei ledu'n ddifeddwl.

"Y peth pwysicaf yw lleihau niferoedd y feirws ar draws y wlad gyfan a dyna rydym yn ei gwneud gyda'n gilydd."