Pro 14: Zebre 6 - 16 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mae Josh Turnbull wedi chwarae dros 100 o gemau i Gleision Caerdydd a'r ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Turnbull wedi chwarae dros 100 o gemau i Gleision Caerdydd a'r Scarlets

Mae Gleision Caerdydd wedi ennill eu gêm agoriadol yn y Pro14 yn erbyn Zebre - er iddyn nhw chwarae'r mwyafrif o'r ail hanner gyda 14 dyn.

Cafodd y cefnwr Josh Turnbull gerdyn coch wedi 43 munud gan y dyfarnwr Gwyddelig George Clancy am dacl beryglus.

Fe wnaeth cais gan Josh Adams ac wyth pwynt gan Jarrod Evans sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm y briddinas.

Rheolodd y Gleision yr ail hanner yn gelfydd gyda'r blaenasgellwr Shane Lewis-Hughes yn rhagori dro ar ôl tro mewn arddangosfa amddiffynnol gref gan y Cymry.

Fe wnaeth hanneri Cymru, Lloyd Williams a Jarrod Evans, hefyd arwain yr ochr yn arbenigol.

Hefyd yn chwarae am y tro cyntaf ers 11 mis oedd canolwr y Gleision, Willis Halaholo. Fe ddioddefodd anaf i'w ben-glin yn ystod eu gêm Cwpan Her yn erbyn Caerlŷr ym mis Tachwedd 2019.

Roedd y tîmau'n chwarae o flaen torf o 1,000 o gefnogwyr Stadio Lanfranchi yn Parma, sydd yn gallu dal 5,000 o bobl.