Y Bencampwriaeth: Blackburn Rovers 0-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe fydd Caerdydd yn fodlon gyda'r canlyniad di-sgôr oddi cartref yn erbyn Blackburn Rovers brynhawn Sadwrn, wedi i'r Adar Gleision orffen y gêm gyda 10 dyn yn unig.

Roedd y ddau dîm wedi cystadlu'n galed yn ystod yr hanner cyntaf, gyda Junior Hoilett i Gaerdydd ac Adam Armstrong i Blackburn yn cael y cyfleoedd gorau i sgorio yn ystod y 45 munud cyntaf.

Yn fuan ar ddechrau'r ail hanner fe lwyddodd golwr Caerdydd Alex Smithies i arbed ergyd Armstrong, ac fe gafodd Lee Tomlin ei hel o'r cae ar ôl derbyn ail gerdyn melyn gydag 20 munud yn weddill.

Blackburn aeth ymlaen i bwyso yn ystod gweddill y gêm, ond ni lwyddodd y tîm cartref i fanteisio ar y cyfle.

Roedd yn brynhawn rhwystredig i Rovers, sydd yn parhau yn y chweched safle yn y Bencampwriaeth gyda saith pwynt o bedair gêm.

Fe fydd Caerdydd yn fodlon gyda'u hymdrechion arwrol i amddiffyn yn ystod y munudau olaf er mwyn sicrhau pwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd bellach yn y 14eg safle.