Wrecsam 2-1 Boreham Wood
- Cyhoeddwyd
Rhoddodd Reece Hall-Johnson a Luke Young y dechrau perffaith i dymor newydd Wrecsam gyda buddugoliaeth dros Boreham Wood ar y Cae Ras.
Tarodd Hall-Johnson, un o wyth chwaraewr newydd i Wrecsam, gôl wych yn yr hanner cyntaf cyn i Keiran Murtagh unioni'r sgôr yn yr ail hanner.
Sicrhaodd cic rydd Young fuddugoliaeth i'r Dreigiau mewn gêm gafodd ei chwarae mewn glaw trwm.
Mae Wrecsam yn destun buddsoddiad arfaethedig gan sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Fe bostiodd Reynolds neges ar Instagram yn dweud ei fod yn dilyn llif byw o gêm agoriadol y tymor.
Mae disgwyl i Reynolds a McElhenney rannu eu gweledigaeth ar gyfer y clwb yn fuan, wedi i'r cefnogwyr sydd yn berchen ar y clwb bleidleisio'n unfrydol i drafodaethau fynd yn eu blaen.
Mae newyddion am y cais wedi cynnig rhywfaint o obaith i'r cefnogwyr ar ôl ychydig o dymhorau siomedig i'r clwb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020