Cockram yn Bencampwraig Rhedeg Prydeinig

  • Cyhoeddwyd
Natasha CockramFfynhonnell y llun, Rex Features

Y redwraig Natasha Cockram o Gwmbrân ydy'r Bencampwraig Rhedeg Prydeinig newydd ar ôl curo ei gwrthwynebwyr domestig ym Marathon Llundain.

Fe orffennodd y farathon yn 13fed safle mewn amser o 2 awr 33:19, sydd ychydig dros drothwy'r amser rhagbrofol o 2:29:30 sydd ei angen ar gyfer cymhwyso i'r Gemau Olympaidd.

Roedd ei hamser ychydig yn fwy na'i pherfformiad personol gorau o 2:30.50, pan redodd yn Nulyn yn 2019.

Ddyddiau'n unig cyn y ras honno fe gafodd anaf wedi iddi dderbyn cic gan geffyl.

Dim ond yn 2017 y dechreuodd redeg marathonau, ac ers hynny mae hi wedi torri sawl record bersonol a chenedlaethol.

Mae llwyddiant wedi dod yn sydyn i Cockram, wedi iddi ddioddef sawl anaf ar ôl dechrau disglair fel rhedwraig ifanc.

Bellach mae hi'n gweithio llawn amser ond yn anelu i gyrraedd y Gemau Olympaidd yn Tokyo, oedd i fod i gael eu cynnal eleni ond sydd ar hyn o bryd i fod i ddigwydd yn 2021.