Geraint Thomas allan o'r Giro d'Italia gydag anaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi tynnu'n ôl o ras y Giro d'Italia gydag anaf i'w glun.
Fe wnaeth y Cymro, aelod o dîm Ineos Grenadiers, ddisgyn oddi ar ei feic cyn dechrau'r drydydd cymal ddydd Llun.
Collodd Thomas, un o'r ffefrynnau cyn dechrau'r ras, 12 munud ar ei gystadleuwyr wrth iddo fethu a chadw at gyflymdra'r peloton.
Er nad oedd prawf meddygol wedi dangos toriad yn yr asgwrn nos Lun, dywedodd ei dîm bod ail sgan ddydd Mawrth wedi dangos y toriad.
Fe wnaeth Thomas, pencampwr y Tour de France yn 2018, ddisgyn ar ôl i botel ddŵr fynd o dan ei olwyn ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020