Drakeford yn cyhuddo Torïaid o annog pobl i dorri rheolau

  • Cyhoeddwyd
Arwydd yn Sir Y FflintFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd rheolau Covid-19 yn Sir Y Fflint

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhuddo gwleidyddion Ceidwadol yn y gogledd o annog pobl i beidio â dilyn rheolau Covid-19.

Daeth mesurau llymach i rym yn rhan helaeth o'r rhanbarth yr wythnos ddiwethaf yn sgil cynnydd yn achosion Covid-19.

Anfonodd holl Aelodau Seneddol ac Aelodau o'r Senedd Ceidwadol sy'n cynrychioli gogledd Cymru lythyr yn gwrthwynebu cyfyngu "anghymesur" ar deithio yn siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam.

Yn ystod sesiwn wythnosol Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mark Drakeford bod y feirniadaeth yn y llythyr yn "warthus".

Ond mae ymateb Mr Drakeford yn "hurt", yn ôl un o'r Ceidwadwyr a lofnododd y llythyr.

Yn ddiweddarach, methodd cyfyngiadau llymach yng Nghaerdydd, Abertawe a thair sir arall yn ne Cymru ag ennill cefnogaeth y gwrthbleidiau mewn pleidlais yn y Senedd.

Mae cefnogaeth aelodau Llafur yn cadw'r cyfyngiadau yn eu lle, ond dywedodd y Ceidwadwyr nad oedd gweinidogion wedi cyfiawnhau'r angen am y cyfyngiadau. Roedd Plaid Brexit hefyd yn gwrthwynebu'r rheoliadau tra bod Plaid Cymru yn ymatal.

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yn ateb cwestiynau yn ystod sesiwn wythnosol Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth

Eglurodd Mr Drakeford mai 50 achos coronafeirws i bob 100,000 o'r boblogaeth oedd trothwy Llywodraeth Cymru o ran cyflwyno mesurau lleol pellach.

Dywedodd eu bod "heb gyrraedd trothwy'r 50 eto pan wnaethon ni weithredu yng ngogledd Cymru", ond bod beirniadaeth y Ceidwadwyr yn annheg, serch hynny.

"Roedd yn gwbl amlwg i unrhyw un oedd yn astudio'r ffigyrau fod gogledd Cymru ar ei ffordd i'r trothwy yna, ac yn anffodus mae ymhell heibio hynny erbyn heddiw," meddai.

'Tanseilio parodrwydd pobl i helpu'

Awgrymodd arweinydd y grŵp Plaid Brexit, Mark Reckless y dylai Mr Drakeford beidio "disgrifio pobl yn warthus, dim ond oherwydd bod, yn yr achos hwn, aelodau Ceidwadol yng ngogledd Cymru, â barn wahanol i chi am y cyfyngiadau coronafeirws".

Ond fe ymatebodd y Prif Weinidog trwy fynd ymhellach yn ei feirniadaeth o'r gwleidyddion Ceidwadol dan sylw.

Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyfyngiadau pellach i rym ym mhedwar sir y gogledd, gan gynnwys Sir Wrecsam, ar 1 Hydref

"Roedd y llythyr a gafodd ei gyhoeddi… yn anogaeth i bobl yng ngogledd Cymru i beidio dilyn y gyfraith sydd wedi ei phasio yma yng Nghymru," dywedodd.

"Ac rwy'n meddwl bod hynny, gan bobl sy'n gosod deddfau, yn warthus, oherwydd fe wnaeth annog [y cyhoedd] i feddwl fod y cyfyngiadau sydd gyda ni mewn grym ar bobl yng ngogledd Cymru yn ddiangen a heb gyfiawnhad.

"Doedd dim o hynny yn wir, ac mae'n tanseilio parodrwydd pobl eraill sydd eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cyfrannu i'r achos."

Cyfyngiadau 'bisâr'

Gan ddisgrifio sylwadau Mr Drakeford yn rhai "hurt", dywedodd un o lofnodwyr y llythyr, AS Gorllewin Clwyd, David Jones bod rhai o'r cyfyngiadau teithio'n "bisâr".

Dywedodd: "Er enghraifft, pam bod hi'n dderbyniol i rywun o Fae Cinmel yrru 30 milltir i Gerrigydrudion, ond nid 200 llath i'r Rhyl?"

Ychwanegodd bod angen iddo wneud mwy i helpu "busnesau sydd methu gweithredu a gweithwyr sy'n colli eu swyddi" yn hytrach na "rhoi pryd o dafod i bobl sy'n codi cwestiynau rhesymol ynghylch ei gyfyngiadau".