Cam-drin plant: Cymorth yr Eglwys yn 'annigonol'
- Cyhoeddwyd

Cadeirydd yr ymchwiliad, Yr Athro Alexis Jay, wnaeth hefyd arwain ymchwiliad i achosion cam-drin yn Rotherham
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi darparu "ychydig iawn" o ran cymorth i bobl gafodd eu cam-drin yn rhywiol yn eu plentyndod, yn ôl adroddiad annibynnol.
Dywed adroddiad IICSA (Ymchwiliad Annibynnol i Gamdriniaeth Rhyw Plant) bod dim system i drefnu cwnsela, therapi na mathau eraill o gymorth i ddioddefwyr.
Mae'n dweud y dylai'r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Lloegr gael polisi o ran darparu cyllid a chefnogaeth.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod yn cymryd yr argymhellion "wirioneddol o ddifri".
Edrychodd ymchwiliad cyhoeddus yng Ngorffennaf 2019 i ba raddau y bu'r ddwy Eglwys yn gwarchod plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol yn y gorffennol a pha mor effeithio yw'r camau diogelu erbyn hyn.
Clywodd y gwrandawiad dystiolaeth gan arweinwyr eglwys, arbenigwyr diogelu a dioddefwyr.
Diffygion cofnodi
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod dim digon o swyddogion diogelu yng Nghymru a bod angen mwy o staff a chyllid i wneud y gwaith.
Mae cadw cofnodion hefyd yn "broblem sylweddol". Dywed yr adroddiad bod cofnodion naill ai ddim yn bodoli neud wedi eu llunio'n wael.
Yn ôl un o swyddogion diogelu'r Eglwys yng Nghymru, Faye Howe, mae'r system cadw cofnodion presennol "yn perthyn i'r Oesoedd Tywyll".
Dywed yr adroddiad nad yw'r Eglwys yn gwybod beth i'w wneud os yw'r heddlu neu'r awdurdodau lleol yn penderfynu peidio gweithredu wedi honiad o gam-drin.

Mae angen tanlinellu pwysigrwydd diogelu plant yn gyson i sicrhau fod yr Eglwys yn osgoi'r fath fethiannau yn y dyfodol, medd cadeirydd yr ymchwiliad, yr Athro Alexis Jay.
"Os fydd newidiadau gwirioneddol a phellgyrhaeddol, mae'n hanfodol fod yr Eglwys yn gwella'r ffordd y mae'n ymateb i honiadau dioddefwyr a goroeswyr, ac yn rhoi cymorth priodol i'r dioddefwyr hynny dros gyfnod o amser," meddai.
Yn ôl IICSA, mae angen proses eglur i benderfynu a oes angen camau disgyblu, ac wrth gynnal asesiadau risg.
Mae yna bryderon hefyd ynghylch diffygion rhannu gwybodaeth ddiogelu berthnasol rhwng y ddwy Eglwys, wrth i glerigwyr symud o'r naill wlad i'r llall.
Does dim protocol 'chwaith o ran rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol.
'Ymddiheuro'n ddiamod'
Ers Ionawr eleni, mae'r Eglwys yng Nghymru â chytundeb gyda gwasanaeth cefnogi arbenigol sy'n darparu cymorth ymgynghorwyr wedi honiadau o drais rhywiol.
Mae modd i ddioddefwyr gysylltu â'r gwasanaeth heb orfod mynd trwy'r Eglwys yn y lle cyntaf.
Dywedodd Yr Eglwys yng Nghymru mai'r flaenoriaeth yw sicrhau awyrgylch "ble mae pawb... yn teimlo'n saff ac wedi'u croesawu a ble mae dealltwriaeth fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
"Rydym yn gwybod ein bod wedi methu yn y gorffennol mewn sawl ffordd ac rydym yn ymddiheuro'n ddiamod i'r rhai gafodd eu heffeithio o ganlyniad.
"Rydym yn barod i gefnogi unrhyw un sy'n dod ymlaen gydag unrhyw bryder."
Ychwanegodd y bydd yn edrych eto ar wella trefniadau gydag Eglwys Lloegr ac asiantaethau statudol.