GIG yn 'colli' cadair olwyn pencampwr Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd
David SmithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Smith dderbyn MBE yn 2017 am ei wasanaeth i boccia

Mae athletwr paralympaidd wedi beirniadu'r gwasanaeth iechyd ar ôl i gadair olwyn sy'n werth £7,500 fynd ar goll tra mewn canolfan atgyweirio.

Dywed David Smith, sydd wedi ennill medalau aur yng Ngemau Paralympaidd 2008 a 2016, fod canolfan ALAS Posture and Mobility ger Pontypridd wedi dangos "anallu llwyr" yn ei achos.

Yn ôl Mr Smith, sy'n 31 oed ac â pharlys yr ymennydd, mae hi'n bosib y bydd yn rhaid iddo nawr aros wyth wythnos ar gyfer asesiad ar gyfer cael cadair olwyn newydd.

Fe wnaeth Mr Smith, sydd hefyd yn bencampwr y byd, ennill ei fedalau aur yng nghystadleuaeth boccia, gêm sy'n debyg i fowls.

Ar hyn o bryd mae wrthi'n paratoi ar gyfer gemau Paralympaidd Tokyo yn 2021.

Mae'r BBC wedi gofyn i'r GIG yng Nghymru am sylw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Smith yn poeni y bydd yn rhaid aros wyth wythos am gadair newydd

"Ar hyn o bryd rwy'n defnyddio'r gadair olwyn rwy'n defnyddio ar gyfer cystadlu, ond dyw hynny ddim yn ddelfrydol gan ei fod ond i fod i gael ei ddefnyddio i eistedd ynddo am ddwy awr - nid y diwrnod cyfan," meddai Mr Smith.

"Roedd fy nghadair arall wedi ei chynllunio yn ofalus fel mod i'n gallu ei rhoi yn y car a'i defnyddio i yrru.

"Mae'n golygu nawr na allai yrru a dwi wedi colli fy annibyniaeth. 'Di o ddim chwaith mor gyfforddus wrth eistedd lawr i ymlacio gyda'r nos."

'Dim syniad'

Dywedodd iddo adael ei gadair olwyn Sunrise Jive yn y ganolfan ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ar 21 Medi.

Pan ffoniodd dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafodd wybod nad oedd ganddynt unrhyw syniad lle'r oedd y gadair.

Cafodd wybod wythnos yn ddiweddarach y byddai'r ganolfan yn talu am gadair newydd, ond mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo aros hyd wyth wythnos ar gyfer asesiad.

Ychwanegodd: "Petai hwn yn gar, byddai'r mater wedi ei ddatrys ar unwaith, ond gan mai cadair olwyn - sydd i bob pwrpas yn goesau i mi - mae rhywsut yn llai pwysig."