Rhybudd melyn am law trwm ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm sy'n debygol o effeithio ar bob rhan o Gymru.
Bydd yn dod i rym am 21:00 nos Fercher ac yn para tan 09:00 bore Iau.
Mae'n berthnasol ym mhob un o siroedd Cymru, gyda disgwyl y bydd band o law o symud tua Lloegr dros nos.
Fe allai'r amodau achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr, yn enwedig wedi glaw trwm iawn y penwythnos diwethaf.
Dywed y Swyddfa Dywydd bod 40-60mm o law'n debygol mewn mannau mwy mynyddig, a 20-30mm yn rhannau helaeth o weddill Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020