Dod o hyd i gorff dyn ger arfordir Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
RNLI

Cafodd corff dyn ei ddarganfod ger arfordir Ynys Môn gan aelod o'r cyhoedd fore dydd Mercher meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd y corff ei ddarganfod ychydig wedi 11:00 ger Ynys y Fydlyn.

Dywed y llu fod Gwylwyr y Glannau a'r RNLI wedi cynorthwyo i drosglwyddo'r corff i Ysbyty Gwynedd yn ddiweddarach.

Daw'r newyddion wedi i griwiau achub chwilio ym Môr Iwerddon am ddyn oedd ar goll o fferi ers nos Lun.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Owain Llewellyn o Heddlu'r Gogledd: "Rydym wedi bod yn ymchwilio i adroddiad fod person ar goll ers 5 Hydref, sydd yn gysylltiedig gyda dyn gafodd ei weld ddiwethaf ar fwrdd llong Irish Ferries oedd yn hwylio rhwng porthladd Dulyn a Chaergybi.

"Nid ydym wedi llwyddo i adnabod y corff yn swyddogol eto ond rydym wedi hysbysu teulu'r dyn oedd ar goll am y digwyddiad heddiw. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, yn enwedig i Wylwyr y Glannau a'r RNLI am eu cymorth yn gynharach y prynhawn yma."