'Gallai hanner cwmnïau bysus gwyliau fynd i'r wal'

  • Cyhoeddwyd
Mel Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mid Wales Travel wedi colli gwerth miloedd o bunnau o fusnes, medd Mel Evans

Gallai bron i hanner cwmnïau bysus gwyliau Cymru fynd i'r wal yn y misoedd nesaf, os na ddaw cymorth ar frys.

Dyna rybudd rhai perchnogion bysus, wrth i gyfyngiadau Covid-19 roi pwysau cynyddol ar y diwydiant teithio.

Dri mis ers i berchnogion cwmnïau bysus brotestio, mae Cymru bellach yng nghanol ail don, a chyfyngiadau lleol mewn grym.

A pharhau mae'r ansicrwydd am y dyfodol, gyda'r pwysau ariannol yn cynyddu yn ôl Mel Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Mid Wales Travel yn Aberystwyth.

Dros gyfnod o 20 munud ar ddechrau'r cyfnod clo fis Mawrth, fe gollodd archebion gwerth £100,000.

"Mae hynny'n massive o swm," meddai. "O'dd Americanwyr i fod i ddod mewn, dod yma i Gymru a gwario yma, ond gollon ni hynny i gyd dros yr haf.

"A'r broblem yw, dyw e ddim yn rh'wbeth y gallwch chi ei dowlu m'lan. Dyw e ddim yn mynd i ddod nôl. Mae e wedi mynd am byth."

'Dim gwybodaeth, cefnogaeth nag arian'

Yr un yw'r pryder yn Llandeilo. Neil Jones yw perchennog Jones International. Yn ddiweddar, fe brynodd fysus newydd er mwyn cwrdd â chanllawiau amgylcheddol wrth deithio trwy ddinasoedd.

Roedd y bysus yn £250,000 ar y pryd. Bellach mae'n nhw'n werth hanner hynny, yn ôl Mr Jones.

Ac mae diffyg cefnogaeth i'r diwydiant, meddai: "Ma' popeth yn dod nôl aton ni, pobl mo'yn eu harian nôl, pobl mo'yn gwbod be sy'n mynd mlaen.

"A so ni'n gallu neud dim byd. So ni'n cael gwybodaeth, so ni'n cael backing, so ni'n cael funding, so ni'n cael dim byd."

Er bod y cerbydau'n segur yn eu canolfan, parhau mae'r costau i'w cynnal a'u cadw

"Dim ond i gal y coaches yma, ni'n talu mas £10,000 y mis, dim ond i gadw nhw yn yr iard. Os nad oes arian yn mynd i ddod mewn, byddwn ni'n stryglan."

Yng nghanol y pwysau ariannol, mae Mel Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys.

"Dyw'r llywodraeth yng Nghaerdydd ddim yn ein trin fel diwydiant twristaidd, ond os 'drychwch chi ar y bobl sy'n dod yma ar eu gwyliau, ma' o leia' eu hanner nhw yn dod mewn coaches.

"Os fyse ni yn ddiwydiant hamdden neu dwristaidd, bydden ni'n gallu cael grantiau, ond am ryw reswm, dy'n nhw ddim ishe i'r coaches gal help o gwbl.

"Ac ofan ydw i y bydd lot o gwmnïe wedi mynd erbyn Ionawr, os na gewn ni help, a bydd hi'n rhy hwyr cyn hir."

'Pecyn mwyaf hael y DU'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n pecyn cymorth i fusnesau yn golygu y gall cwmnïau yng Nghymru fanteisio ar y pecyn mwyaf hael sydd ar gael unrhyw le yn y DU.

"Mae'n Cronfa Cadernid Economaidd, sef cronfa unigryw gwerth £500m, yn rhan o'r pecyn hwn ac mae eisoes wedi cefnogi miloedd o gwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys gweithredwyr coetsys.

"Nid yw cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddi-ben-draw, fodd bynnag. Ac o'r herwydd mae angen i Lywodraeth y DU fynd gam ymhellach gan gynnig y cymorth ariannol sydd ei angen fel y gall busnesau adfer ar ôl y pandemig."