Beth ydy'r rheolau ar fysiau ysgol yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau gwahanol â rheolau gwahanol o ran teithio ar fysiau i'r ysgol

Ni fydd rhaid i ddisgyblion gadw pellter cymdeithasol ar rai bysiau fydd yn eu cludo i'r ysgol, ond bydd yn rhaid i rai wisgo mygydau.

Mae rhai awdurdodau lleol wedi rhoi cyngor i ddefnyddwyr bysiau wrth iddyn nhw baratoi i ddychwelyd i'r dosbarth yr wythnos nesaf.

Ers mis Gorffennaf, mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i unrhyw un dros 11 oed orchuddio eu hwynebau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ond mae rhai gwasanaethau, fel rhai sy'n cludo plant i'r ysgol, wedi eu heithrio.

Penderfyniad cynghorau

Penderfyniad y cynghorau unigol yw hi os ddylai disgyblion ysgolion uwchradd wisgo mygydau ar eu bysiau ysgol, ond mae rhai awdurdodau eto i gyhoeddi eu canllawiau ar deithio i'r ysgol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyngor i ysgolion fis diwethaf, oedd yn cynnwys rhywfaint o gyngor ar gludiant o'r cartref i'r ysgol.

Mae disgyblion sy'n teithio ar fysiau masnachol er mwyn cyrraedd yr ysgol yn gorfod gwisgo mygydau.

Beth ydy polisi'r cynghorau?

Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud bod yn rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd wisgo mygydau ac yn argymell yr un peth i blant cynradd hefyd.

Bydd Cyngor Caerdydd yn darparu mygydau i'r rhai sy'n mynychu ysgolion uwchradd ac yn defnyddio cludiant ysgol.

Yn ôl Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bydd digon o fysiau ar gyfer holl ddisgyblion y sir sydd eu hangen, ond dyw hi ddim yn glir os fydd rhaid i'r plant gadw pellter cymdeithasol ar y bysiau.

Ond ni fydd gwisgo mygydau yn orfodol medd yr awdurdod.

Polisi Cyngor Ceredigion yw eu bod yn disgwyl i ddisgyblion wisgo rhywbeth i orchuddio eu hwynebau ar fysiau a thacsis o'u cartrefi i'r ysgol am nad yw'n orfodol cadw pellter ar fysiau ysgol.

Mae'n rhaid i ddisgyblion 11 oed a hŷn wisgo mygydau wrth deithio ar drafnidiaeth ysgol medd Cyngor Bro Morgannwg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Sir Benfro yn cael eu hannog i gadw pellter cymdeithasol yn y safleoedd bysiau

Yn ôl llefarydd o Gyngor Pen-y-bont maen nhw mewn cysylltiad gyda darparwyr trafnidiaeth er mwyn ceisio cydlynu gydag ysgolion fel bod disgyblion sydd yn yr un grwpiau dysgu "yn eistedd gyda'i gilydd pan fo'n bosib" ar drafnidiaeth ysgol.

Mae Cyngor Sir Penfro yn argymell rhieni i fynd â'u plant i'r ysgol eu hunain pan fo'n bosib, trwy gerdded neu seiclo, neu yrru os yn angenrheidiol, ond gan beidio â pharcio ar dir yr ysgol a cherdded rhan olaf y daith.

Ni fydd ymbellhau cymdeithasol rhwng disgyblion, medd y llefarydd, ond bydd hyn yn digwydd rhwng y gyrrwr a'r plant ar fysiau ysgol mawr.

"Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw ddisgybl yn cael eistedd yn y rhesi blaen," meddai'r awdurdod.

Mae'r cyngor hefyd yn dweud y dylai disgyblion "geisio cadw" pellter cymdeithasol yn y safleoedd bysiau, golchi dwylo wrth gamu ar y bysiau a mynd i'r seddi yng nghefn y bws os yn bosib "er mwyn osgoi gorfod pasio disgyblion eraill".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, y Cydffederasiwn Cludwyr Teithwyr a chwmnïau bysiau er mwyn sicrhau trafnidiaeth ysgol ddiogel a chyraeddadwy".