Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Maidenhead

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna siom a rhwystredigaeth i Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol nos Lun wrth iddyn nhw gael eu curo gan y tîm a ddechreuodd y noson ar waelod y tabl.

Enillodd Maidenhead eu gêm gyntaf yn y gynghrair y tymor hwn wedi i Josh Coley sgorio unig gôl y gêm wedi 33 o funudau.

Fe gafodd Wrecsam sawl cyfle i unioni'r sgôr yn yr ail hanner ac fe rwydodd Jordan Ponticelli ond doedd y gôl ddim yn cyfri wedi penderfyniad bod yna gamsefyll.

Mae tîm Dean Keates yn parhau yn wythfed safle'r tabl gyda chwe phwynt ar ôl pedair gêm.