'Angen 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd mewn 5 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Tony Lock
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Tony Lock fyw mewn fan am ddwy flynedd

Mae Shelter Cymru yn galw ar i bwy bynnag sy'n ffurfio'r llywodraeth nesa ym Mae Caerdydd i godi 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn ystod pum mlynedd nesa'r Senedd.

Mae'n dilyn gwaith ymchwil gan yr elusen yn edrych ar sefyllfa tai a chartrefi yn ystod y cyfnod clo.

Bu Tony Lock yn byw mewn fan am ddwy flynedd ar ôl gorfod gadael tŷ rhent preifat am ei fod yn cael ei werthu.

Doedd ef ddim yn gallu fforddio rhentu ar y farchnad agored, heb sôn am brynu tŷ.

Roedd wedi bod yn disgwyl am dŷ cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwnnw - heb ddod yn agos i gael to uwch ei ben.

Ond newidiodd hynny ar ôl digwyddiad ddiwedd y llynedd.

'Dim llefydd i bobl i fyw'

"Nadolig diwetha' ges i heart attack," meddai.

"O'n i'n mynd i fynd nôl i'r fan, ond ma' ffrindie da gyda fi, a wedon nhw 'nagyt ti'n mynd nôl i'r fan'. Achos o'n i wedi bod yn dost, ges i fy shiffto lan y list.

"Os na fydden i wedi cal yr heart attack bydden i byth wedi cael lle, fi'n siŵr am hynny. Achos y problemau sydd yng Nghymru, 'sdim llefydd i bobl i fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tony Lock - yma'n ei fan - bod byw mewn tŷ fel "bod ar wylie'"

Ers mis Chwefror mae Tony wedi cael lle mewn tŷ cymdeithasol yn Llandeilo, ac mae'n newid byd o'r fan oedd yn gartre iddo tan yn ddiweddar.

"Ma tŷ bach ffein 'da fi, tamed bach o ardd 'da fi. Ma' fe'n neis cal rhyw i fyw, rhywle teidi, heb orfod poeni am bethau trwy'r amser, amdano ble fi'n mynd i fyw, fel fi'n mynd i fyw?"

Dyna'r math o sefyllfa mae Shelter Cymru am weld llywodraeth nesaf Cymru yn ceisio ei waredu.

'Covid-19 wedi amlygu anghyfartaledd enfawr'

Yn ystod y cyfnod clo fe wnaeth yr elusen gynnal arolwg ar sefyllfa tai a chartrefi yng Nghymru.

Roedd yr arolwg yn awgrymu nad oedd gan un ymhob 10 aelwyd gyda phlant - sy'n cyfateb i 63,000 o blant ar hyd Cymru - fynediad i ardal tu allan, fel gardd breifat neu gymunedol rhwng Mawrth a Mehefin eleni.

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu taw dim ond 42% o denantiaid mewn cartrefi preifat oedd yn teimlo eu bod yn gallu hunan-ynysu'n effeithiol os y byddai angen gwneud hynny.

Mae'r elusen felly yn galw ar ba bynnag blaid fydd yn ffurfio llywodraeth nesa Cymru wedi'r etholiad ym mis Mai, i ymrwymo i godi 20,000 o dai cymdeithasol addas a fforddiadwy.

'Amlygu anghyfartaledd enfawr'

Yn ôl Jennie Bibbings, pennaeth ymgyrchoedd Shelter Cymru: "Mae Covid-19 wedi amlygu anghyfartaledd enfawr mewn cymunedau yng Nghymru.

"Mae bywyd yn y cyfnod clo wedi bod yn anodd, ond mae wedi bod yn anoddach i rai pobl na'i gilydd.

"Mae'n warthus bod gymaint o bobl yn byw mewn tai o ansawdd gwael sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl ac sy'n ei gwneud yn fwy anodd i osgoi'r feirws."

Fe ddywedodd Julie James, Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru bod gwaith yn cael ei wneud i godi rhagor o dai cymdeithasol yng Nghymru

"Mae angen i ni adeiladu rhagor o dai cymdeithasol ar raddfa fawr a hynny'n gyflym, a dyna'n gwmws yr ydym ni wedi'i 'neud," meddai.

"Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn ystod tymor y Senedd yma a ma' hynny wedi cynyddu yn ystod y pandemig, ac wedi cyflymu'n cynlluniau. Felly dwi'n hapus gyda hynny, a ma' angen i ni barhau gyda'r gwaith hynny."

Beth ydy bwriad y pleidiau?

Fe ofynnodd BBC Cymru beth fyddai cynlluniau Llafur Cymru, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o ran tai cymdeithasol os y byddan nhw'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Fe gyfeiriodd y Blaid Lafur, sydd mewn grym ar hyn o bryd, at y ffaith bod adeiladu tai cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a'u bod am "adeiladu ar y gwaith maen nhw eisoes wedi ei gyflawni".

Fe ddywedodd y Ceidwadwyr eu bod nhw wedi ymrwymo i adeiladu 40,000 o dai cymdeithasol dros gyfnod o 10 mlynedd.

Tra bod Plaid Cymru yn dweud eu bod nhw'n addo codi 30,000 o gartrefi cymdeithasol yn ystod y bum mlynedd gyntaf os y bydden nhw'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.