Clun yn 'ddechrau bywyd newydd' i glaf ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch o Gaerffili yn dweud fod cael llawdriniaeth ar ei chlun fel "dechrau bywyd newydd" ar ôl dwy flynedd hunllefus.
Mae Megan Godfrey, sy'n 11 oed, ymhlith y cleifion ieuengaf ym Mhrydain i gael clun newydd.
Cafodd ei geni gyda nam ar ei chlun a hwn oedd y pymthegfed tro iddi gael llawdriniaeth arni.
"Doedd dim lot o fywyd gyda Megan cyn y lawdriniaeth," meddai ei mam, Nerys.
"Roedd lot o weithgareddau allgyrsiol wedi mynd mas drwy'r ffenest. Llwyddodd hi i fynd nôl a mlaen i'r ysgol ar ffyn baglau neu gadair olwyn a dyna oedd ei bywyd hi.
"Roedd hi'n dwlu ar ddawnsio, nofio a gymnasteg, yn amlwg gorfod i hwnna i gyd stopio. Doedd e ddim yn fywyd neis iawn i Meg."
Taith anodd
Mae'r teulu wrth eu boddau yn dilyn y lawdriniaeth yn Ysbyty Plant Bryste ond dyw'r wythnosau diwethaf ddim wedi bod yn hawdd.
Cafodd y lawdriniaeth, oedd fod i ddigwydd ar 11 Medi, ei gohirio dair gwaith.
"Oedd e'n gyfnod anodd iawn i ni fel teulu," meddai Nerys. "Oedd e'n anodd i ni baratoi Megan bob tro.
"Mae plentyn 11 oed i fod yn hapus ac yn disgwyl mlaen i neud pethau pob dydd ond yn anffodus doedd hynny ddim yn gallu digwydd gyda ni.
"Ro'n ni'n gorfod ei pharatoi hi tair, pedair gwaith 'to, roedd hwnna'n anodd iawn. O'n i ddim yn gw'bod lle o'n i, o'n i'n becso lot am bethau a Covid-19 yn gynwysedig yn y becso yna."
Mae'r teulu wedi bod yn byw ar wahân ers diwedd Awst am fod Megan yn gorfod hunan-ynysu cyn y lawdriniaeth a'i chwiorydd angen dychwelyd i'r ysgol.
Fe symudon nhw i fyw at eu mam-gu a'u tad-cu ac fe ddechreuodd Meleri, efaill Megan, ysgol uwchradd heb ei chwaer.
"Mae'r ddwy ohonyn nhw 'di colli mas lot gyda'i gilydd dros yr wythnosau diwetha' yn 'neud pethe newydd gyda'i gilydd a hwn yw'r cyfnod hira mae'r ddwy wedi bod ar wahân."
Fydd y chwiorydd ddim yn dychwelyd adre tan hanner tymor er mwyn i Megan gael amser i gryfhau ar ôl y lawdriniaeth ddiweddara.
"Dwi 'di cael 15 llawdriniaeth," meddai.
"Ges i un pan o'n i'n fabi ac o'n i'n iawn am tua saith mlynedd cyn bod fy nghoes yn mynd yn wael eto ac roedd rhaid i fi gael llawdriniaethau eto."
Mae'r ddwy flynedd ddiwetha wedi bod yn "hunllef" meddai Nerys.
"Mae'n deimlad enfawr o ryddhad fod y lawdriniaeth wedi ei gwneud a mae'n ddechrau bywyd newydd i Meg."
Teyrnged
Mae hi'n talu teyrnged i staff Ysbyty Plant Bryste am y gofal.
"Ni mor lwcus bod yr arbenigedd yna. O'n nhw'n cwmpo dros eu hunain i neud yn siŵr fod Megan yn iawn achos fod cymaint o lawdriniaethau yn y gorffennol heb weithio. Yn ôl Bryste hi yw'r ail berson ifanca yn hanes yr ysbyty i gael y lawdriniaeth."
Mae'r teulu nawr yn edrych ymlaen at weld Megan yn ailymuno mewn pob math o weithgareddau gyda'i chwiorydd.
"Roedd hi'n anodd iawn iddi weld ei chwiorydd yn mynd i gymnasteg, hyd yn oed mynd am wâc fel teulu oedd hi methu rhedeg fel ei chwiorydd, neu neidio mewn i bwll nofio, oedd hi methu 'neud pethau fel hynny.
"Ni jyst ishe cael bywyd nôl fel teulu eto".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020