Y Gynghrair Genedlaethol: Wealdstone 4-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Jacob MendyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Jacob Mendy un o goliau'r tîm cartref

Enillodd y newydd-ddyfodiaid Wealdstone eu gêm gyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol gyda buddugoliaeth dros Wrecsam.

Fe wnaeth Dennon Lewis roi Wealdstone ar y blaen yn ystod hanner cyntaf a welodd bedair gôl mewn saith munud.

Sgoriodd Jerome Okimo i'w rwyd ei hun i ddod â Wrecsam yn gyfartal, cyn i Adi Yussuf roi'r ymwelwyr ar y blaen.

Ond fe wnaeth goliau gan Jacob Mendy, Alex Dyer a Michee Efete sicrhau'r fuddugoliaeth gydag Yussuf yn sgorio gôl gysur yn hwyr i Wrecsam.

Mae Wrecsam yn 10fed yn y gynghrair ar ôl ail golled yn olynol.