Mark Reckless yn ymuno â Phlaid Diddymu'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Mark Reckless
Disgrifiad o’r llun,

Mark Reckless yn siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, 13 Hydref

Mae cyn arweinydd grŵp Plaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless, wedi ymuno â Phlaid Diddymu'r Cynulliad.

Mewn datganiad dywedodd Mr Reckless bod y blaid wedi cyflawni ei nod wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd ei fod yn ymuno â Phlaid Diddymu'r Cynulliad "er mwyn rhoi llais iawn i'r rhai sy'n gwrthwynebu datganoli yng ngwleidyddiaeth Cymru".

Dim aelod Plaid Brexit yn y Senedd

Does gan Blaid Brexit felly ddim un aelod yn y Senedd wedi i David Rowlands a Mandy Jones ymuno â phlaid newydd yr Independent Alliance for Reform.

Mewn datganiad dywedodd Mr Reckless sy'n gyn-Aelod Seneddol Ceidwadol: "Mae Plaid Brexit wedi gwireddu ei nod wrth i ni bellach adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Cyn i ni ddod â grŵp Brexit i ben yn y Senedd fe wnaethon ni gynnal arolwg ymhlith cefnogwyr cofrestredig y blaid am y dyfodol. Dywedodd dwy ran o dair ohonynt eu bod am ddiddymu ac am gael gwared â datganoli.

"Felly rwy'n ymuno â Phlaid Diddymu'r Cynulliad er mwyn rhoi llais go iawn i'r rhai sy'n gwrthwynebu datganoli yng ngwleidyddiaeth Cymru."

Ychwanegodd ei fod o'r farn bod datganoli tan nawr wedi dilyn llwybr unffordd gyda mwy a mwy o bwerau yn cael eu datganoli.

Caroline Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Rowlands AS, Mandy Jones AS a Caroline Jones, aelod annibynnol wedi ffurfio plaid Independent Alliance for Reform,

"Mae nhw bellach yn gorfodi ffin rhwng Cymru a Lloegr," meddai, "a'r flwyddyn nesaf efallai y gwelwn dreth incwm yn codi yng Nghymru yn unig wrth i fwy o bwerau gael eu trosglwyddo."

Ddydd Gwener fe wnaeth cyn-aelodau o Blaid Brexit - David Rowlands AS a Mandy Jones AS ymuno â Caroline Jones, aelod annibynnol, i ffurfio plaid newydd yn y Senedd sef yr Independent Alliance for Reform.

Y grŵp newydd yw'r pedwerydd mwyaf yn y Senedd sydd â 60 aelod ac maent yn dweud y byddant yn canolbwyntio ar ddiwygio datganoli yn hytrach na'i ddiddymu.

Mae Mr Reckless yn ymuno ag un aelod arall wrth ddod yn aelod o Blaid Diddymu'r Cynulliad sef Gareth Bennett a oedd hefyd yn arfer bod yn aelod o Blaid Brexit.