Achos twyll yn dechrau yn erbyn cyn-weithiwr siop Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Siop y Pentan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siop y Pentan, Caerfyrddin ei sefydlu yn 1972

Mae achos wedi dechrau yn Llys y Goron Abertawe yn erbyn dyn sydd wedi ei gyhuddo o gymryd arian o Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin drwy dwyll.

Mae Emyr Edwards yn gwadu 11 cyhuddiad o gamddefnyddio ei safle i dalu arian y busnes iddo'i hun, ei frawd a busnes arall yn 2017 a 2018.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Edwards wedi cyflawni twyll gwerth oddeutu £12,000.

Mae Mr Edwards yn cydnabod gwneud y taliadau ond yn dweud mai gwneud yn iawn am gyflog oedd heb ei dalu oedd hynny, gyda chaniatâd ei gyflogwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Edwards yn gwadu'r 11 cyhuddiad yn ei erbyn

Dywedodd Llio Davies, un o gyn-berchnogion Siop y Pentan, wrth y llys fod Mr Edwards wedi cael hyfforddiant cadw cyfrifon a'i fod wedi cymryd mwy o gyfrifoldeb ar ôl i ŵr Ms Davies fynd yn sâl.

Yn ôl Ms Davies roedd Mr Edwards wedi dweud wrthi "i beidio â phoeni am ddim byd" ac y byddai'n "cymryd golwg ar bopeth".

Ond ychwanegodd nad oedd ganddo hawl i wneud taliadau i bobl oedd ddim yn gysylltiedig â'r busnes, nid i'w frawd Heddwyn, na chwmni adeiladu Scotts Mini Diggers.

Ar ben hynny ychwanegodd nad oedd Mr Edwards wedi dweud wrthi nad oedd yn cael ei dalu digon.

"Doedd na'm rheswm iddo beidio ei gael yn gyson... felly oedd hi ers y dechrau," meddai wrth y llys.

'Talu ei hun'

Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr Mr Edwards, James Hartson, fe ddywedodd Ms Davies y byddai Mr Edwards yn cael ei dalu am weithio oriau anffurfiol yn y blynyddoedd cynnar ar ôl ymuno â'r busnes yn 2010/11, ond na fyddai fyth yn cael arian parod yn ei law.

Pan awgrymwyd i Ms Davies fod cwmni cyfrifwyr Llŷr James yn hapus â safon ei waith, atebodd na wnaethon nhw "erioed ddweud dim byd i'r gwrthwyneb".

Fe glywodd y llys y bu Mr Edwards yn gweithio llai o oriau yn Siop y Pentan yn 2017/18, a dywedodd Ms Davies y "gwnaeth o ddweud ei fod o'n mynd i dalu ei hun ar ôl rhywfaint o amser... ond o'n i'n cymryd fod o'n gwneud pethau'n iawn".

"Oedd o'n gwneud oriau heb ei dalu?" gofynnodd bargyfreithwyr Mr Edwards.

"Na," atebodd Ms Davies.

Mae Mr Edwards yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.