Gwadu twyll gwerth £12,000 o siop Gymraeg Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
bbc
Disgrifiad o’r llun,

Siop y Pentan, Caerfyrddin

Mae dyn 30 oed o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe gan bledio'n ddieuog i 14 cyhuddiad o dwyll.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â thwyll honedig gan Emyr Edwards tra 'roedd yn gweithio yn Siop y Pentan ym marchnad Caerfyrddin rhwng 2017 a 2018.

Dywed yr erlyniad ei fod wedi camddefnyddio ei safle yn y siop ar y pryd, a'i fod wedi cyflawni twyll gwerth oddeutu £12,000.

Mae rhai cyhuddiadau'n ymwneud â thalu sieciau, ac eraill yn ymwneud â throsglwyddo a chuddio taliadau.

Cadarnhaodd Mr Edwards ei enw, cyfeiriad, dyddiad geni a chenedligrwydd yn ystod y gwrandawiad byr fore dydd Llun.

Bydd yr achos llys yn ei erbyn yn dechrau ar 22 Mehefin ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth diamod.