'Trefniant ar lafar' ynghylch talu cyflog diffynnydd

  • Cyhoeddwyd
Siop y Pentan

Mae cyn-weithiwr sy'n gwadu cael arian trwy dwyll o Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin wedi dweud wrth reithgor fod yna "drefniant ar lafar" rhyngddo a'i gyflogwyr ynghylch y modd roedd yn derbyn ei gyflog.

Mae Emyr Edwards yn gwadu 11 cyhuddiad o gamddefnyddio ei safle i dalu arian y busnes iddo'i hun, ei frawd a busnes arall yn 2017 a 2018.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Edwards wedi cyflawni twyll gwerth oddeutu £12,000.

Mae Mr Edwards yn cydnabod gwneud y taliadau ond yn dweud mai gwneud yn iawn am gyflog oedd heb ei dalu oedd hynny, gyda chaniatâd ei gyflogwyr.

Cyflawni sawl rôl

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr, James Hartson yn Llys Y Goron Abertawe ddydd Mawrth, dywedodd ei fod yn cyflawni sawl rôl yn y siop.

Dywedodd hefyd nad oedd yn derbyn ei gyflog yn rheolaidd, ac y byddai arian yn ddyledus iddo.

"A wnaethoch chi gyflawni twyll?" gofynnodd Mr Hartson.

Atebodd Mr Edwards: "Naddo - yn sicr dyw hynny ddim yn gywir."

Gofynnodd Mr Hartson: "Sut oeddech chi'n teimlo pan gawsoch eich cyhuddo o ddwyn arian o'r busnes?"

"Ro'n i'n teimlo'n ddigalon," meddai Mr Edwards. "Mae e wedi effeithio arnaf i yn bersonol, yr holl oriau a weithiais yn y siop, yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Edwards yn gwadu twyllo'i gyn-gyflogwyr

Cyfaddefodd Mr Edwards fod siec o £2,570 o gyfrif Siop y Pentan wedi ei thalu i gwmni Scotts Mini Diggers, a bod y cwmni hwnnw yn cyflawni gwaith yn ei gartref.

Ond mynnodd fod hynny wedi digwydd am fod cyflog yn ddyledus iddo. "Roedd trefniant i guddio costau cyflogaeth," fe honnodd.

Yn gynharach, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Laura Rogerson iddi holi Mr Edwards gyntaf yng ngorsaf yr heddlu yn Rhydaman.

Eglurodd Mr Edwards bryd hynny y byddai weithiau'n mynd am fisoedd heb dâl, a'i fod yn talu ei gyflog i'w hun gyda chaniatâd ei gyflogwyr.

Pan holwyd Mr Edwards am yr eildro gan yr heddlu yng Ngorffennaf 2018, dewisodd beidio â gwneud unrhyw sylw.

Eglurodd ei fod wedi gwneud hynny oherwydd cyngor cyfreithiol.

Llyfr glas

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Lowri Wynn Morgan, dywedodd Mr Edwards ei fod yn cadw cofnod o'i oriau a'r arian oedd yn ddyledus iddo mewn llyfr glas, a oedd cael ei gadw tu ôl i ddesg yn y siop.

"Ond wnaethoch chi ddim rhoi'r llyfr hwnnw i swyddogion yr heddlu," meddai Ms Morgan.

"Naddo," meddai Mr Edwards,

"Dyw'r llyfr ddim yn bodoli, ydy e?" awgrymodd Ms Morgan.

"Mae'n bodoli," atebodd y diffynnydd.

Nododd y Barnwr, Geraint Walters fod y llyfr hwn yn ganolog i'r achos a bod angen rhagor o wybodaeth yn ei gylch.

Mae'r achos yn parhau.