Ffrainc v Cymru: Record newydd i Alun Wyn Jones

  • Cyhoeddwyd
AWJFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn Jones, 35, wedi ennill ei gapiau'n chwarae dros Gymru a'r Llewod

Bydd Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 148 wrth i Gymru herio Ffrainc ddydd Sadwrn.

Mae'n golygu y bydd capten Cymru yn dod yn gyfartal â record cyn-gapten Seland Newydd, Richie McCaw o ran nifer o gapiau mewn gemau prawf.

Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac wedi enwi tîm cryf a phrofiadol ar gyfer y gêm gyfeillgar ym Mharis.

Bydd y gêm yn y Stade de France yn rhan o baratoadau Cymru - sydd heb chwarae ers saith mis - cyn wynebu'r Alban yn y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.

Cafodd y gêm yng Nghaerdydd ei gohirio ym mis Mawrth oherwydd y pandemig coronafeirws.

Bydd George North yn ennill cap rhif 96, tra bod Rhys Webb yn cychwyn fel mewnwr am y tro cyntaf dros ei wlad ers tair blynedd.

Y bachwr Sam Parry a'r asgellwr Louis Rees-Zammit - y ddau yn dechrau ar y fainc - ydy'r ddau yn y garfan sydd eto i ennill cap.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Welsh Rugby Union 🏉

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Welsh Rugby Union 🏉

Tîm Ffrainc

Anthony Bouthier; Teddy Thomas, Virimi Vakatawa, Gael Fickou, Vincent Rattez; Romain Ntamack, Antoine Dupont; Gregory Alldritt, Charles Ollivon (capt), Francois Cros; Paul Willemse, Bernard Le Roux; Mohamed Haouas, Julien Marchand, Cyril Baille

Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Demba Bamba, Romain Taofifenua, Dylan Cretin, Baptiste Serin, Thomas Ramos, Arthur Vincent

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rhys Carre, Ryan Elias, Samson Lee; Cory Hill, Alun Wyn Jones; Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau

Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Dillon Lewis, Seb Davies, James Davies; Gareth Davies, Rhys Patchell, Louis Rees-Zammit