Carreg filltir i brosiect £6.8m i wella Afon Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Jac Codi Baw yn dechrau tynnu'r goredFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith yn cychwyn i dynnu'r gored

Mae cynlluniau gwerth bron i £7m i adfer yr afon fwyaf yng ngogledd Cymru wedi cymryd cam arwyddocaol ymlaen.

Dros y canrifoedd mae newidiadau wedi digwydd i gyflwr naturiol Afon Dyfrdwy a'r ardaloedd o'i chwmpas, a bwriad prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yw adfer yr afon i'w chyflwr naturiol.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n gyfrifol am y cynllun, y gobaith yw y bydd yn dod â sawl mantais i'r amgylchedd ac yn cynyddu niferoedd y pysgod - yn enwedig eogiaid.

Er mai dim ond y mis diwethaf y dechreuodd y prosiect gwerth £6.8m, dywed CNC ei fod wedi cyrraedd ei garreg filltir gyntaf, sef tynnu cored (weir) o Afon Tryweryn - un o'r afonydd llai sy'n bwydo Afon Dyfrdwy.

Roedd y gored - oedd ddim yn strwythur naturiol - yn rhwystr i bysgod mudol ar yr afon.

Y gored ar Afon Tryweryn cyn y gwaithFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gored ar Afon Tryweryn cyn dechrau'r gwaith

Yr afon ar ol tynnu'r goredFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

...ac ar ôl cwblhau'r gwaith

Symudwyd cerrig mawr o'r gored i ddarparu cynefinoedd ac ardaloedd silio pwysig ar gyfer yr amrywiaeth o rywogaethau sy'n byw yn yr afon, ac fe'u defnyddiwyd hefyd i sefydlogi gwely'r afon.

Yn ôl Gethin Morris, uwch swyddog adfer afonydd y prosiect: "Roedd y gored yn rhwystr ffisegol i bysgod oedd yn ymfudo, yn enwedig ar adeg llif isel yn y gwanwyn, pan welid niferoedd mawr o eogiaid ifanc yn ymgasglu uwchlaw'r gored wrth iddyn nhw geisio ymfudo i'r môr.

"Drwy dynnu'r gored o gerrig mawr oddi yno, mae wedi gwella amgylchiadau'n syth i'r pysgod sy'n ymfudo yn Afon Tryweryn.

"Dyma garreg filltir gyntaf ragorol i'r prosiect, a llwyddwyd i gwblhau'r holl waith yn brydlon cyn i eogiaid aeddfed ddechrau silio yn Afon Tryweryn dros y gaeaf."

Dyma'r gored gyntaf i gael ei datgymalu'n llawn yn y prosiect, a bydd 10 cored arall yn y dalgylch yn cael eu haddasu dros y pedair blynedd nesaf.