Pro14: Gweilch 23-15 Glasgow
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth bwysig i'r Gweilch adre yn Stadiwm Liberty yn y Pro14 nos Sadwrn.
Dechreuodd Glasgow y gêm yn rymus gyda chais rhwydd gan Huw Jones yn y munudau cyntaf ac er i Stephen Myler gicio gôl gosb ymhen tair munud, Glasgow oedd gryfaf.
Yn fuan daeth cais i'r bachwr George Turner ac fe sicrhaodd y trosiad gan Pete Horne ddeuddeg pwynt i'r ymwelwyr. Roedd eu hymosodiadau yn dod yn don ar ôl ton ond yna yn annisgwyl roedd ymosodiad sydyn gan y Gweilch a Reuben Morgan-Williams yn tirio.
Daeth y deugain munud cyntaf i ben gyda'r sgôr (10-12) yn wyrthiol o agos er gwaethaf cryfder chwarae Glasgow.
Dechreuodd yr ail hanner gyda chic gosb i'r Gweilch a Myler yn cicio'r bêl rhwng y pyst. Trawodd Glasgow yn ôl gyda chic gosb lwyddiannus gan Horne.
Lake a Beard yn disgleirio
Roedd y Gweilch yn chwarae'n well erbyn hyn ac yr oedd y blaenwyr yn gyrru yn agos iawn at y linell gais, ond rhwystrwyd hwy gan Glasgow ac yna wedi pas ryfeddol gan Morgan-Williams aeth Kieran Williams drosodd yn y gornel ac wedi trosiad llwyddiannus Myler roedd y sgôr yn 20-15.
Roedd y glaw yn arllwys i lawr pan lwyddodd Myler eto gyda chic gosb a rhoi'r Gweilch ddwy sgôr ar y blaen.
Roedd Glasgow yn ymosod yn ddiflino wedi hynny ond llwyddodd y Gweilch i'w rhwystro gyda pherfformiadau trawiadol gan Dewi Lake ac Adam Beard.
Buddugoliaeth bwysig i'r Gweilch a dim ond eu hail fuddugoliaeth gartref mewn deuddeg mis.