Gohirio Hanner Marathon Caerdydd eto tan Hydref 2021
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr ras Hanner Marathon Caerdydd wedi cadarnhau fod y digwyddiad wedi ei ohirio unwaith eto.
Bydd y ras bellach yn digwydd ar 3 Hydref, 2021.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei ohirio unwaith yn barod oherwydd y pandemig coronafeirws.
Ym mis Mehefin, cafodd ei symud o fis Hydref eleni tan 28 Mawrth, 2021.
Dywed Run 4 Wales eu bod wedi bod yn "gwylio gyda gobaith dros y misoedd diwethaf" ar sefyllfa'r cyfyngiadau yn sgil y pandemig.
Ond dywedodd llefarydd: "Yn dilyn cynnydd yn y nifer o achosion, cyfyngiadau cyfnod cloi wedi'u gosod a chyfnod cythryblus y gaeaf o'n blaenau, ni fydd yn bosibl cyflwyno digwyddiad o'r maint a'r raddfa hon erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf."
Mae'r ras wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'i fath yn y DU gyda 27,500 o redwyr a hyd at 100,000 yn gwylio ar y teledu.
Bydd pob rhedwr sydd â lle yn gallu ei ddefnyddio yn y digwyddiad sydd wedi'i aildrefnu ar ddydd Sul, 3 Hydref 2021.
Mae sgil-effaith y penderfyniad hwn yn golygu y bydd 19eg Hanner Marathon Caerdydd hefyd yn cael ei gynnal flwyddyn yn ddiweddarach, ar 2 Hydref 2022.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020