Saith marwolaeth a 1,207 achos newydd o Covid-19

  • Cyhoeddwyd
covidFfynhonnell y llun, jarun011

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod 1,207 o achosion newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf.

Bu saith yn rhagor o farwolaethau sy'n gysylltiedig gyda Covid-19.

O'r achosion newydd, roedd 203 yng Nghaerdydd, 189 yn Rhondda Cynon Taf, 134 yn Abertawe ac 85 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Roedd Caerffili (62), Wrecsam (60) a Phen-y-bont ar Ogwr (58) hefyd â dros hanner cant o achosion newydd.

Mae 1,790 o farwolaethau gyda Covid-19 wedi cael eu hadrodd bellach gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chyfanswm yr achosion o'r feirws yn cyrraedd 45,046.

O safbwynt nifer yr achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth, mae sawl ardal bellach wedi pasio neu ar fin cyrraedd 300.

Yr ardal waethaf yng Nghymru yw Merthyr Tudful gyda chyfradd o 402.8/100,000. Yna daw Rhondda Cynon Taf ar 380.9, Blaenau Gwent gyda 345, Caerdydd ar 317.8 ac mae Castell-nedd Port Talbot bellach wedi cyrraedd cyfradd o 299.3.

Yn achos yr holl ffigyrau, mae Iehyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod y gallai'r gwir ffigwr fod yn sylweddol uwch, ac yn gynharach ddydd Mawrth fe wnaeth y Swyddfa Ystadgeau Gwladol gyhoeddi eu ffigyrau wythnosol sy'n dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi cynyddu eto yng Nghymru dros y saith diwrnod diwethaf.

Fe gafodd 9,798 o brofion eu cynnal ddydd Llun.