Covid-19: Cynnydd yn nifer y marwolaethau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bu cynnydd eto yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â coronafeirws yng Nghymru.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol cofnodwyd 47 marwolaeth yn yr wythnos hyd at 16 Hydref - cynnydd o 10 o'r wythnos flaenorol.
Dyma'r ffigyrau fesul ardal Bwrdd Iechyd:
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: 15 marwolaeth
Aneurin Bevan: 10
Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro: 5 yr un
Bae Abertawe: 3
O'r marwolaethau a gofnodwyd mewn ysbytai, roedd 10 ohonynt yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Mae'r hyn a elwir yn 'farwolaethau gormodol' - 'excess deaths' - sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig gyda'r blynyddoedd blaenorol, yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf.
Mae edrych ar nifer y marwolaethau fyddai'n digwydd yn arferol ar yr adeg yma o'r flwyddyn yn cael ei ystyried yn linyn mesur defnyddiol o ddatblygiad y pandemig.
Cofnodwyd cyfanswm o 688 o farwolaethau yng Nghymru yn y cyfnod, sydd yn 58 yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.
Yng Nghymru a Lloegr roedd cyfanswm o 10,534 o farwolaethau yn yr un cyfnod - 580 yn fwy na'r wythnos flaenorol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020