Ateb y Galw: Yr hanesydd Dr Elin Jones

  • Cyhoeddwyd
Dr Elin Jones

Yr hanesydd Dr Elin Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan clare e. potter yr wythnos diwethaf.

Mae Elin yn wreiddiol o Ystrad Mynach. Mae hi'n adnabyddus am ei harbenigedd ym maes hanes, a'i gwaith i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Straffaglu i glymu rhuban coch mewn cwlwm, i addurno tegan o gi oedd gen i ar y pryd. Rwy'n cofio meddwl 'mod i wedi cyflawni tipyn o gamp pan lwyddais i, ac felly'n mynd a'i ddangos i 'mam, oedd yn rhoi dillad ar yr hen airer oedd yn hongian o nenfwd y gegin. Byddwn i ryw ddwy flwydd ar y pryd, rwy'n meddwl.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Steve McQueen. Poster anferth ohono yng nghegin y tŷ roeddwn yn rhannu gyda ffrindiau yn Greenfield Street yn Aberystwyth. Yr hen Steve yn gorfod gwylio'n hymdrechion i ddysgu gwneud bwyd bwytadwy - ond yn ymuno ym mhob parti, chwarae teg iddo!

Ffynhonnell y llun, Silver Screen Collection
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Steve McQueen yn y ffilm The Thomas Crown Affair y 1968

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cwympo i gysgu o flaen y dosbarth pan yn fy mlwyddyn gyntaf yn dysgu yn Ysgol y Preseli. Disgyblion hyfryd y fro honno yn garedig iawn wrth i fi ddysgu dysgu - heb sôn am garedigrwydd ac amynedd fy nghyd-athrawon!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Blynyddoedd yn ôl nawr. Cefais fraw wrth alw ar ffrind, a hithau ddim yn ateb y drws. Roedd hi wedi cael trawiad ar y galon rai blynyddoedd ynghynt, ac roeddwn yn ofni'r gwaethaf. Roedd hi'n iawn, ond wedi mynd allan am dro, ac anghofio fy mod yn galw heibio! Criais i'r glaw o'i gweld hi'n iach ac yn saff...

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Llawer iawn, ond yr un gwaethaf - oherwydd yr effaith ar eraill - yw bod yn hwyr. Yr un yw fy adduned bob blwyddyn; trïo bod ychydig yn fwy prydlon.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gormod o ddewis, ond cefais noson gofiadwy o hwyliog yng nghwmni dysgwyr Tonysguboriau yn ddiweddar, a noson fendigedig arall gyda'r arlunydd ifanc gwych Tomos Sparnon yn arddangos ei waith, yn ei drafod ac yn sôn am waith yr arlunwyr sydd wedi dylanwadu arno. Y ddau yn rhan o weithgareddau Merched y Wawr (diolch amdanynt!) a Zoom (a diolch am hwnnw hefyd, sy'n lleddfu pwysau'r cyfnod cloi).

Disgrifiad o’r llun,

Tomos Sparnon oedd enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch yn 2015

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i drwydded i ddefnyddio radio mewn cwch ar y môr (radio operator's licence).

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hen Gymraes weddw.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dewis o ddau yma. Llywarch ap Llywelyn (fl. 1170 -1220), prifardd Llywelyn Fawr, a thestun fy ymchwil a'm chwilfrydedd o hyd. Eisiau gwybod sawl un o'm damcaniaethau amdano oedd ag unrhyw sail iddynt, pam oedd yn gallu bygwth lladd dau o'r tywysogion y bu hefyd yn canu mawl iddynt, pam iddo gael ei alw yn "Prydydd y Moch" - ond yn bennaf oll: beth oedd ystyr rhai o'i gerddi - na, i fod yn onest, ystyr pob un o'i gerddi. Mae'n fwriadol dywyll ar adegau, ond yn drawiadol o ran testun a mynegiant ac yn enigma i fi o hyd.

Y person gwahanol iawn yw'r llall, sef Mrs Elizabeth Miles (1847 - 1930) o Westy'r Metropole, Llandrindod, gynt. Rwy' wedi bod yn ceisio gwneud ychydig o ymchwil i'r fenyw ryfedd hon - entrepreneure mewn crinolin, yn wir. Hoffwn wybod cymaint yn fwy amdani! Ac, o gofio iddi redeg rhai o westai gorau Cymru, rwy'n siŵr y byddai'r ddiod yn werth ei hyfed hefyd.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Rwy'n caru pob erw o Gymru, ond yn bennaf y naw metr sgwâr o bridd yng nghefn y tŷ lle rwy'n tyfu llysiau. Fyddwn i ddim yn mentro galw "gardd" ar y darn bach hwn o Gymru, ond mae'n rhoi lot o bleser i fi, a digonedd o lysiau hefyd.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dwi ddim yn gerddorol o gwbl, ond mae clywed cân Huw Jones, Daw Dydd y Bydd Mawr y Rhai Bychain, yn codi fy nghalon bob tro. Mae'n dweud pethau mawr am y newid dros amser sydd yn un o hanfodion hanes - ac yn f'atgoffa am y cyfnod hwnnw yn y 1960au pan oedd y byd yn newid mor gyflym, a phobl ifanc yn llawn hyder yn eu dyfodol.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfr yn bendant, ac un dewis sydd, sef Blasu gan Manon Steffan Ros, oherwydd yr ysgrifennu cain, y cymeriadu sensitif a threiddgar, y darlun cymhleth a chredadwy o'r newid dros amser mewn agwedd cymdeithas tuag at salwch meddwl... a'r ryseitiau gwych.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Manon Steffan Ros y Wobr Ffuglen yn 2013 am Blasu. Yn 2019, enillodd y Wobr Ffuglen eto, yn ogystal â gwobrau Barn y Bobl a Llyfr y Flwyddyn gyda Llyfr Glas Nebo

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Wel, pwy arall ond Llywarch ap Llywelyn! (Jyst i ffindio ma's beth oedd yn mynd ymlaen yn ei ben.)

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gweddïo.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Caviar, Tournedos Rossini, Mont Blanc - ond mae'n flynyddoedd lawer ers i fi fwyta tri chwrs cyfan, cofiwch.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Huw Jones

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw