Ateb y Galw: Y bardd clare e. potter
- Cyhoeddwyd
Y bardd a'r berfformwraig clare e. potter sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Ifor ap Glyn yr wythnos diwethaf.
Mae clare yn gweithio ar brosiectau cymunedol gydag artistiaid eraill ac mae hi hefyd wedi bod yn rhan o brosiect Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli.
Ar ôl byw yn New Orleans am ddegawd, derbyniodd gyllid i greu ymateb i drawma Corwynt Katrina ar ffurf jazz a barddoniaeth. Mae hi wrthi'n ysgrifennu ei hail gasgliad o gerddi.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi yn fy nghot, a mae'n dywyll heblaw am ddarn o olau o gwmpas y drws a dyna fy Wncl Cyril (mwy na thebyg ar ei ffordd i'w shifft dan ddaear) yn edrych i mewn. Atgof melys.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
O'n i'n dwli ar Gene Kelly - y trowsus yna gyda gwast uchel! O'n i wastad eisiau dawnsio 'da fe.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i'n darlithio mewn prifysgol (sai'n dweud pa un!) ac anfonais i erthygl i'r llungopïwr. Yn lle gwasgu 30, rhoies i'r cod anghywir. Wythnos wedyn, cerddais i i mewn i'r stafell llungopïo a roedd 'na dros 7,000 o gopïau mewn twmpathau. Sôn am chwysu! Peidiwch becso, dwi wedi ail-defnyddio'r papur!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Y bore 'ma. Ar ôl cerdded fy merch fach i'r ysgol trwy'r goedwig, ffeindais i chwech phluen bach melyn a du - plu adain Nico (goldfinch). Siŵr fod yr aderyn yna wedi cael ei ladd. Mae 'da fi'r plu yma ar fy nesg a dwi wedi rhoi nhw mewn hagstone.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Ers o'n i'n ifanc am rhyw rheswm dwi wastad yn gadael drysau a droriau cwpwrdd ar agor. Mae fe'n dreifio fy mhartner o gwmpas y bend! Pam ydw i'n ei wneud?!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Roeddwn i'n byw yn New Orleans am tua deng mlynedd. Y noson olaf cyn o'n i'n symud yn ôl i Gymru, es i i'r noson White Linen Walk, sef pan mae Stryd Julia sy'n llawn orielau yn cau i geir a mae pawb yn gwisgo dillad gwyn ac yn cerdded i mewn a mas o'r orielau yn mwynhau'r gwaith celf, yn bwyta, yfed ac yn dawnsio i gerddoriaeth fyw. Yn oriau mân y bore, roeddwn i'n un o'r rhai i arwain y Second Line y tu ôl i fand jazz trwy'r strydoedd. Bythgofiadwy!
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fy mreuddwyd cyfrinachol yw i fod yn actor llais ar y radio. O'n i'n arfer cuddio fy Sony Walkman dan y gwely pan o'n i'n fach i wrando ar ddramâu radio BBC heb i fy Mam wybod!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Alert, empathig, pryderus.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Mae hoff lyfrau fi yn newid trwy'r amser. Ond fy hoff ffilm (ers o'n i'n fach) yw Whistle Down the Wind. O'n i'n dwli ar eu hacenion, ac hefyd o'n i'n credu taw Iesu oedd e yn y 'sgubor. Nawr pan dwi'n gwylio, dwi'n gweld y ffilm trwy lygaid plentyn a llygaid oedolyn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Cwm Iau, Y Fenni. O'n i'n fardd preswyl am ddwy flynedd yn Llwyn Celyn, sydd wedi ei gwtsho yng Nghwm Llanddewi Nant Honddu. Roeddwn i'n arfer eistedd ar hen wal yn edrych yn syth at yr Ysgyryd Mawr. Mae mor heddychlon ac oesol. Mae 'da fi deimlad cryf o berthyn yna.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Fel llyfrau, mae fy hoff gân yn newid ond yr un sy'n rhoi croen gwydd i fi ydy O Holy Night.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Pauline Adlon - actores, ysgrifennwr sgript a chyfarwyddwr y gyfres Better Things. Mae hi'n fenyw pwerus iawn, deallus, ac mae hi'n gynhyrchiol.
Mae 'na themâu ac emosiynau cryf a hardd yn ei chyfres hi ac mae hi wedi gwneud lot i bortreadu bywydau menywod canol oed. Mae'n gorjys hefyd a dwi'n dwli ar y cymeriad Sam mae hi wedi ei greu.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Siarad yn uchel ac yn glir am yr holl bethau a phobl a theimladau a phrofiadau dwi yn ddiolchgar i Dduw/Grym Creadigol amdanyn nhw. Baswn i'n dweud wrth y bobl dwi'n caru fy mod i'n caru nhw ac yn mynd i mewn i'r goedwig i fod gyda'r gwreiddiau, dail ac adar i farw mewn godidogrwydd o wyrddni.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi ddim yn ffyslyd. Unrhyw fwyd o Seeds 2 yn Totnes. Bwyd llysieuol/Fegan. Iym!
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Dr Elin Jones