Pobl hŷn 'yn unig ac yn cael trafferth â gofal iechyd'

  • Cyhoeddwyd
henoedFfynhonnell y llun, Sceince and Photo Library

Mae llawer o bobl hŷn yn teimlo "wedi eu gadael mewn unigrwydd" yn ystod y cyfnod clo cyntaf, medd elusen Age Cymru.

Dywedodd yr elusen hefyd fod mwy na dau draean o bobl hŷn yn cael trafferth cael mynediad at ofal iechyd.

Roedd 78% o'r ymatebion i arolwg cenedlaethol yn dweud mai'r her fwyaf iddyn nhw oedd peidio medru gweld teulu a ffrindiau.

Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan y byddai'r adroddiad yn help i ddeall "yr heriau unigol mae pobl hŷn wedi'u wynebu dros y misoedd diwethaf".

'Mae'n strygl i mi'

Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod pwysau ychwanegol ar ysgwyddau gofalwyr hŷn oedd gyda llai o gefnogaeth, naill ai am fod gwasanaethau wedi eu cwtogi neu am fod pobl ofn gadael i staff gofal ddod i mewn i'w cartrefi.

Mae Tony Price o Gaerdydd yn 62 oed ac yn gofalu am ei wraig Tina. Fe gafodd yntau lawdriniaeth ar ei ben-glin ym mis Ionawr, ac mae'n cael trafferth cael y gofal y mae'n dweud sydd angen arno.

Dywedodd ei fod angen gweld arbenigwr a'i fod "mewn poen cyson", ond fod ei apwyntiad diwethaf yn yr ysbyty ym mis Mawrth cyn y cyfnod clo cyntaf.

Ychwanegodd fod ei feddyg teulu wedi bod yn wych, ond mai'r unig beth oedd e'n medru neud oedd rhoi morffin iddo, ac mae wedi bod yn cymryd y cyffur ers tri mis.

Dywedodd: "Fe ddylen ni gael y cyfle i fynd i'r ysbyty. Rwy'n gwybod fod pobl ofn Covid-19, ond mae'n strygl i mi ar y funud. Mae'n amhosib plygu drosodd, ac rwy'n teimlo'n waeth nag o'n i cyn y lawdriniaeth."

Ffynhonnell y llun, Age Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ganlyniadau arolwg Age Cymru

Wrth ymateb i sylwadau Mr Price, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Gydol y pandemig rydym wedi gweithio dan amodau heriol i gynnal gwasanaethau ysbytai cymaint ag sy'n bosib, gan flaenoriaethu'r rhai sydd gyda'r angen mwyaf.

"Mae'r ddrwg gennym glywed nad yw Mr Price yn teimlo ei fod wedi gallu cael mynediad llawn i'r gofal y mae angen. Byddwn yn annog unrhyw glaf sy'n bryderus am ei iechyd i gysylltu fel bod modd iddyn nhw gael y gofal priodol, a'u hannog hefyd i godi unrhyw bryderon am y gofal y maen nhw'n ei dderbyn gyda'n tîm."

Mae arolwg Age Cymru'n awgrymu fod 70% o bobl hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael trafferth cael apwyntiadau ysbyty, meddyg teulu, a deintydd.

Roedd 55% o ymatebwyr oedd yn byw ar ben eu hunain yn dweud eu bod yn teimlo'n unig a bron hanner (44%) yn teimlo bod y sefyllfa'n her feddyliol ac emosiynol.

'Clywed eu lleisiau'

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: "Ry'n ni'n clywed llawer yn dweud wrthym eu bod yn teimlo wedi eu gadael mewn unigrwydd, a bod diffyg mynediad at gefnogaeth fel eu bod ddim yn gwybod lle i droi.

"Gallai peidio cael mynediad at ofal iechyd pan mae ei angen arwain at lawer o bobl hŷn yn diodde'n ddiangen gyda dirywiad pellach yn eu hiechyd.

"Gan ein bod ar drothwy'r gaeaf, rhaid i ni gael ymdrech i sicrhau fod gennym y systemau a chefnogaeth gywir mewn lle i bobl hŷn.

"Mae'r holl sefydliadau ddaeth at ei gilydd i gynhyrchu'r adroddiad hwn wedi ymrwymo i weithio gyda'r awdurdodau i sicrhau fod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, nad ydyn nhw'n cael eu gadael a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu hyd at orau ein gallu."

Dywedodd Julie Morgan AS y byddai arolwg Age Cymru'n gymorth wrth ddeall yr heriau fydd yn wynebu pobl hŷn o hyd dros y misoedd i ddod.

"Rydw i'n edrych ymlaen at barhau gyda'r ddeialog yma a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu chwarae eu rhan wrth ailadeiladu ein cymunedau a'n heconomi," meddai'r gweinidog.

"Ni ddylai unrhyw un deimlo'n anweledig neu'n unig oherwydd eu hoedran - mae'n rhaid gweithio ar draws cenedlaethau i ailgysylltu, codi hyder a herio rhagfarnau ar sail oedran."