Chwe Gwlad: Gohirio gêm Merched Cymru wedi achosion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Merched Cymru

Mae gêm Merched Cymru yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi ei gohirio oherwydd Covid-19.

Mae pedair o dîm Yr Alban wedi tynnu'n ôl o'r garfan ar ôl dod i gysylltiad gydag aelodau o garfan Ffrainc - sydd wedi cael profion positif yn ddiweddarach.

Mae pumed aelod o'r garfan hefyd wedi cael prawf positif.

Dywedodd y trefnwyr ei bod yn "amhosib i'r Alban ddewis tîm cystadleuol yn erbyn Cymru".

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y chwaraewyr yn "siomedig", ond yn deall y sefyllfa ac yn dymuno'n dda i'r rhai sydd wedi cael y feirws.

Roedd y gêm i fod i gael ei chwarae ym mis Mawrth yn wreiddiol, ond bydd y trefnwyr yn ceisio ei hail-drefnu unwaith eto.