Y Bencampwriaeth: QPR 3-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
RallsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Joe Ralls yn sgorio o'r smotyn i Gaerdydd

Colli oedd hanes yr Adar Gleision oddi cartref yn erbyn QPR, a hynny o 3-2.

Ilias Chair a Todd Kane roddodd QPR ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Doedd dim arwydd o awch i gystadlu gan yr ymwelwyr i ddechrau, ond fe wnaethant lusgo eu hunain yn ôl i'r gêm yn yr ail hanner.

Cafodd Kieffer Moore ei faglu gan Yoann Barbet, cyn i Ralls sgorio ei gôl gyntaf o'r tymor.

Fe fethodd Junior Hoilett, Sean Morrison a Lee Tomlin gyfleoedd i sgorio, cyn i drosedd Conor Masterson arwain at ail gic gosb Joe Ralls o'r prynhawn.

Fe arbedodd golwr QPR, Seny Dieng, yr ymdrech gyntaf gan Ralls, cyn iddo sgorio ar ei ail gyfle.

Ond brwydrodd y tîm cartref yn ôl a sicrhau'r pwyntiau diolch i ergyd gofiadwy gan Dominic Ball.

Mae tîm Neil Harris yn disgyn i'r 17eg safle yn dilyn y canlyniad, wrth i'w tymor siomedig barhau.