Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd
Neil Harris (left) with Neil WarnockFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Neil Harris (chwith) yn olynu Neil Warnock fel rheolwr yr Adar Gleision yn 2019

Gêm gyfartal gafodd yr Adar Gleision adref yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn yn nghanol y glaw.

George Saville ar ran yr ymwelwyr a sgoriodd gyntaf gan roi ei dîm ar y blaen hanner amser ond wedi 70 munud roedd yna gôl i Sheyi Ojo ac roedd y ddau dîm yn gyfartal - Ojo yn llwyddo i sgorio ar ôl peniad Kieffer Moore.

Roedd Ojo yn agos i sgorio yr ail dro ond aeth y bêl heibio'r postyn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ail gôl Sheyi Ojo i Gaerdydd mewn tair gêm

Mae'r Adar Gleision felly yn parhau i geisio cael buddugoliaeth adref y tymor hwn wedi iddynt sicrhau eu pwynt cartref cyntaf o'r tymor nos Fercher yn erbyn Bournemouth.

Roedd Neil Warnock, cyn-reolwr yr Adar Gleision, ond sydd bellach yn rheoli Middlesbrough yn falch na lwyddodd Caerdydd i ennill adref.

Mae Middlesbrough yn disgyn i'r trydydd-safle-ar-ddeg yn y tabl a Chaerdydd yn disgyn i'r pymthegfed safle wedi saith gêm yr un.